Fel yr adroddwyd yn ddiweddar fe fydd y Ganolfan Groeso sydd ar Sgwâr y Frenhines yn symud i safle newydd a mwy ar Stryt Caer yn gynharach y flwyddyn nesaf.
Rydym nawr wedi llwyddo i gael gafael ar argraffiadau arlunwyr sydd wedi eu llunio ac rydym yn falch iawn o’u rhannu gyda chi! Rydym ni’n credu eu bod yn wych a byddant yn sicrhau nad ydi ymwelwyr yn siomedig gyda’r hyn y byddant yn ei ganfod wrth ymweld â Wrecsam.
Bydd teimlad braf a digon o le yn croesawu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn a hefyd mae’r fantais ychwanegol o ofod hyblyg – a gaiff ei ddangos gyda’r byrddau a’r cadeiriau yn yr argraffiadau – y gellir ei agor gyda’r nos ac ar y penwythnosau i ddigwyddiadau fel arddangosfeydd bwyd lleol a sesiynau blasu jin lleol 🙂
Bydd y safle ehangach hefyd yn caniatáu i’r Ganolfan Groeso arddangos mwy a mwy o’r cynnyrch lleol blasus sydd ar gael ar hyn o bryd yn ogystal â’r hyn y mae’n eu gwerthu ar hyn o bryd gan gynnwys lager Wrexham Lager, jin Aber Falls Gin, seidr Rosie’s Cider, siocled Aballu, halen Halen Môn, wisgi Penderyn, sawsiau Dylan’s, jamiau Mrs Picklepot a rygiau Tweedmill.
Dim ond rhai munudau ar droed yw’r lleoliad newydd o’r safle presennol a bydd hen ymwelwyr ac ymwelwyr newydd yn elwa o’r cyfleuster modern gyda wyneb dwbl sy’n darparu ar gyfer pob ymwelydd p’run ai ydynt yn chwilio am fapiau, tocynnau, am wybod beth sy’n digwydd yn yr ardal neu am gael cofrodd neu gyngor ar deithio a llety mewn gwesty. Byddant hefyd yn gallu arddangos mwy o gynnyrch lleol, cynnyrch nad oes lle ar ei gyfer ar hyn o bryd!
“Canolfan Groeso hyblyg a modern”
Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Datblygu Economaidd ac Adfywio: “Rydym wedi bod yn edrych am safle addas a mwy ar gyfer y Ganolfan Groeso ers peth amser ac mae symud i gyn siopau’r Oriel sydd nawr yn wag yn gwneud synnwyr llwyr yn economaidd. Mae’r nifer sy’n ymweld â Wrecsam yn sicr ar gynnydd ac maent yn disgwyl canfod Canolfan Groeso hyblyg a modern sy’n gallu bodloni eu holl geisiadau penodol.”
“Yn ogystal â’r holl ddigwyddiadau a gaiff eu cynnal yng nghanol y dref, mae Safle Treftadaeth y Byd ar garreg ein drws, dau eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac wrth gwrs harddwch naturiol eithriadol Y Waun a Dyffryn Dyfrdwy sy’n denu ymwelwyr o bob cwr o’r byd. Hefyd mae safleoedd o ddiddordeb hanesyddol a diwydiannol yng nghanol y dref ac ar draws y fwrdeistref sirol ac mae’n rhaid i ni fod yn barod i dderbyn niferoedd cynyddol o ymwelwyr yn y blynyddoedd sydd i ddod.”
I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, cliciwch yma
DWI ISIO MYNEGI FY MARN!
DOES DIM OTS GEN