Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Sut mae’r disgyblion hyn yn addysgu eraill ynglŷn ag ailgylchu
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Jayne Bryant
Cymunedau Cymru i dderbyn hwb adfywio gwerth £17m
Busnes ac addysg Pobl a lle
ruthin road
Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun
Pobl a lle Y cyngor
Eisteddfod Wrecsam 2025
Eisteddfod Wrecsam 2025!
Digwyddiadau Fideo
Wrexham's Year of Wonder
Lansio “Blwyddyn o Ryfeddod” Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle
Adult holding a child's hand
Galwad o’r newydd am fabwysiadwyr Cymraeg eu hiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol
Digwyddiadau Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Sut mae’r disgyblion hyn yn addysgu eraill ynglŷn ag ailgylchu
Busnes ac addysgFideoY cyngor

Sut mae’r disgyblion hyn yn addysgu eraill ynglŷn ag ailgylchu

Diweddarwyd diwethaf: 2019/02/14 at 11:08 AM
Rhannu
Darllen 4 funud
Victoria School Recycling
RHANNU

Mae disgyblion yn Ysgol Gynradd Gymunedol Fictoria wedi cymryd y cyfrifoldeb o ddangos i eraill pa mor bwysig ydi ailgylchu.

Cynnwys
Eisiau gwella eich sgiliau ailgylchu?Atebion y cwis

Roedd Pwyllgor Eco Ysgolion Wrecsam yn bresennol yng ngweithdy ailgylchu Hydref diwethaf, a gan fod y disgyblion yn llawn edmygedd o’r hyn yr oeddynt wedi’i ddysgu, roeddynt yn awyddus i rannu’r wybodaeth â gweddill yr ysgol.

Cynhaliwyd y gweithdy ailgylchu yn Ystafell Addysg Canolfan Ailgylchu Lôn y Bryn… mae Ysgol Gynradd Gymunedol Fictoria ymysg nifer o ysgolion sydd wedi manteisio ar y cyfleusterau hyn.

Mae ffenestr archwilio yn galluogi disgyblion i weld sut mae deunyddiau y gellid eu hailgylchu yn cael eu casglu’n swmp, yn barod i’w gyrru i ffwrdd a’u hailgylchu fel cynhyrchion newydd.

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

YMGEISIO AM LE MEITHRIN AR GYFER MEDI 2019

Mae Catherine Golightly, Swyddog Strategaeth Gwastraff Cyngor Wrecsam yn cynnal sesiynau sy’n cynnig profiad ailgylchu rhyngweithiol i ddisgyblion, ac roedd ganddi’r canlynol i ddweud: “Dw’i wrth fy modd rhedeg y gweithdai yn yr Ystafell Addysg ac roeddwn wrth fy modd pan ges i wahoddiad i’r gwasanaeth gan y Pwyllgor eco.

“Mae hyn yn golygu fod y gweithdai yn fuddiol, pan rydych yn gweld fod y wybodaeth yn cael ei gymryd o ddifri. Mae’r ffaith eu bod eisiau addysgu yr holl ysgol yn aruthrol.

“Dylai’r disgyblion fod yn falch iawn o’u cyflwyniad.”

Fe wnaethon nhw sicrhau eu bod yn rhoi gwybod i weddill yr ysgol…yn fuan wedi’r gweithdy, dechreuodd y Pwyllgor Eco gynllunio gwasanaeth er mwyn trosglwyddo’r wybodaeth yn ôl i’r ysgol.

Meddai Debbie Eccles, Pennaeth Ysgol Fictoria: “Hoffwn ddweud pa mor falch ydw i o’r plant am gymryd diddordeb yn y mater hwn ac am yr ymrwymiad gwirioneddol y maen nhw’n ei ddangos at leihau plastig – a gwastraff arall – yn yr ysgol.

“Mae’n enghraifft wych o lais y disgybl yn cael effaith ystyrlon a chynaliadwy, gobeithio. Diolch i Catherine am ysbrydoli’r plant.”

Cynhaliwyd y gwasanaeth Ddydd Mawrth, 28 Ionawr, ac roeddem yn ffodus iawn i fod yn bresennol!

Roedd o’n ffantastig…roedd y disgyblion mor wybodus, clir a chryno, wrth drosglwyddo manteision ailgylchu.

Dyma fideo byr a gymerwyd o’r gwasanaeth…

Siaradodd disgyblion ynglŷn â’u hymweliad o flaen cyflwyniad PowerPoint a gafodd ei daflunio ar y sgrin fawr du ôl iddynt.

Roeddynt yn ymdrin â phynciau megis gwahanol fathau o finiau, beth all ei hailgylchu, beth sy’n digwydd i’r deunydd rydym yn ailgylchu, a pham ei bod hi’n bwysig peidio â chymysgu’r deunyddiau sy’n cael eu hailgylchu.

Dywedodd y Cyng. David A Bithell, Aelod Arweiniol ar gyfer yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth: “Mae hon yn stori wych ynglŷn â grŵp o bobl ifanc yn cymryd cyfrifoldeb i addysgu eraill ynglŷn ag ailgylchu.

“Os gallent hwy ysbrydoli eraill – y genhedlaeth hŷn yn ogystal â phobl ifanc eraill – byddai hyn yn gam mawr ymlaen i Wrecsam.

“Mae gennym gyfleusterau dysgu ffantastig yn yr Ystafell Addysg yn ein Canolfan Ailgylchu yn Lôn y Bryn, ac mae hyn yn dangos fod sesiynau Catherine yn cael dylanwad positif.”

Eisiau gwella eich sgiliau ailgylchu?

Rhowch gynnig ar ein cwis plastig isod i weld sut rydych yn ei wneud…mae’r atebion cywir i’w gweld ar ddiwedd yr erthygl hon 🙂

Mae mwy o wybodaeth, gallwch dderbyn awgrymiadau a gwybodaeth i’ch helpu chi ddod yn arwr ailgylchu 🙂

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ysgol meithrin yn 2019 yw Chwefror 22

YMGEISIWCH NAWR

Atebion y cwis

1) Pob un 2) Cadi gwastraff bwyd 3) 1205 tunnell 4) 725,000 5) Tua 50%

Rhannu
Erthygl flaenorol Gwobr Iris i Grŵp Lleol Gwobr Iris i Grŵp Lleol
Erthygl nesaf Peidiwch â cholli'r noson comedi Cymraeg yn Nhŷ Pawb Peidiwch â cholli’r noson comedi Cymraeg yn Nhŷ Pawb

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Jayne Bryant
Cymunedau Cymru i dderbyn hwb adfywio gwerth £17m
Busnes ac addysg Pobl a lle Awst 5, 2025
ruthin road
Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun
Pobl a lle Y cyngor Awst 5, 2025
Eisteddfod Wrecsam 2025
Eisteddfod Wrecsam 2025!
Digwyddiadau Fideo Awst 5, 2025
Wrexham's Year of Wonder
Lansio “Blwyddyn o Ryfeddod” Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle Awst 5, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Jayne Bryant
Busnes ac addysgPobl a lle

Cymunedau Cymru i dderbyn hwb adfywio gwerth £17m

Awst 5, 2025
ruthin road
Pobl a lleY cyngor

Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun

Awst 5, 2025
Eisteddfod Wrecsam 2025
DigwyddiadauFideo

Eisteddfod Wrecsam 2025!

Awst 5, 2025
Adult holding a child's hand
DigwyddiadauY cyngor

Galwad o’r newydd am fabwysiadwyr Cymraeg eu hiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Awst 1, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English