Mae perchennog tŷ newydd wedi diolch i Gyngor Wrecsam am ei helpu hi a’i theulu i brynu cartref newydd.
Prynodd Leah Thomas dŷ yn Rhostyllen gyda help y benthyciad Cymorth Prynu a ddarparwyd gan y Cyngor ar y cyd â Chymdeithas Tai Grŵp Cynefin.
Mae Cymorth Prynu yn gynllun sy’n cynnig cefnogaeth i ddarpar berchnogion tai drwy ddarparu benthyciad ecwiti i’w cynorthwyo i brynu eiddo. Mae’r benthyciad fel arfer yn 30% o’r pris prynu cymeradwy, ond mae’n gallu codi i 50%.
“Rydym ar ben ein digon gyda’r tŷ…”
Mae Leah yn esbonio sut y bu’r cynllun yn help iddi hi: “Roeddem eisoes ar y rhestr ceisiadau tai cyngor pan gawsom wybod fod y Cyngor yn gallu cynnig help i ni brynu eiddo trwy’r cynllun benthyciad Cymorth Prynu. Fe lwyddom i gael morgais ac ni fydd angen i ni dalu’r benthyciad yn ôl nes i ni werthu’r eiddo felly mae wedi bod yn help anferth i’n helpu i brynu’r tŷ. Rydym ar ben ein digon gyda’r tŷ. Mae’n fodern a golau ac mewn lleoliad gwych. Mae’n ddiogel ac nid oes gormod o draffig, sy’n wych pan ydych yn magu teulu ifanc, ond mae’n ddigon agos at yr holl siopau lleol a’r ffordd osgoi.”
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Cafodd arian ar gyfer y cynllun benthyca ei ddarparu trwy swm gohiriedig o ddatblygiad tai Mountain View a adeiladwyd gan gwmni Taylor Wimpey.
Swm gohiriedig yw swm o arian a delir gan ddatblygwr i’r Cyngor os yw maint neu raddfa datblygiad yn sbarduno’r gofyn am dai fforddiadwy, ond nid yw’n bosibl cyflawni tai fforddiadwy priodol ar y safle.
“Mae’n wych gweld fod y cynllun benthyciad Cymorth Prynu wedi bod yn llwyddiannus…”
Meddai’r Aelod Arweiniol Tai, y Cynghorydd David Griffiths: “Gall prynu cartref newydd fod yn anodd iawn yn yr hinsawdd ariannol presennol felly mae’n hanfodol ein bod yn gallu gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu pobl i gael eu troed ar yr ysgol dai. Mae’n wych gweld fod y cynllun benthyciad Cymorth Prynu wedi bod yn llwyddiannus a bod Leah a’i theulu wedi gallu elwa. Rwy’n gobeithio y bydd y cynllun parhaus hwn yn gallu helpu llawer mwy o bobl.”
Gallwch ddarganfod mwy am dewisiadau tai ar wefan y cyngor.
Gallwch gael newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam gyda Fy Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI