Ydych chi erioed wedi meddwl am gael swydd lle mae pob diwrnod yn wahanol?
Mae’n braf cael amrywiaeth yn eich gwaith, ac mae cael swydd lle gallwch chi wneud gwahaniaeth yn rhywbeth y mae llawer ohonom ni’n ymdrechu i’w chael. Os ydych chi’n un o’r bobl yma, bydd arnoch chi eisiau clywed am y cyfle hwn 🙂
Rydym ni’n chwilio am beiriannydd (Gwaith Amgylcheddol) i weithio yn ein Hadran Tai a’r Economi.
Mae hon yn swydd gyda chontract tymor penodol tan 31 Mawrth 2022. Bydd deilydd y swydd yn gweithio dan gyfarwyddyd Arweinydd Tîm Peirianneg ac yn cydlynu gwaith dylunio a darparu prosiectau o fewn ein stoc dai.
Rydym ni’n edrych ar ôl 11,200 o eiddo ar draws Wrecsam a bydd ein Peiriannydd yn ymgymryd ag ystod o waith amgylcheddol.
Er mwyn i ddarpar ymgeiswyr ddeall y swydd yn well bu i ni ofyn i Lee Roberts, Prif Gyswllt Buddsoddi mewn Eiddo, am fwy o wybodaeth – ac roedd o’n falch o gael helpu.
Meddai Lee: “Bydd ein peiriannydd nesaf yn chwarae rhan fawr yn ein tîm a bydd yn dod â syniadau newydd a digon o frwdfrydedd. Rydym ni’n chwilio am rywun sy’n gallu datrys problemau ac sy’n meddu ar ddatrysiadau dylunio. Dyma swydd lle gallwch chi wneud gwahaniaeth go iawn.
“Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cwrdd â thenantiaid a chontractwyr, felly mae angen sgiliau cyfathrebu gwych. Mae’n gyfle da i gael effaith gadarnhaol ar waith a gwelliannau amgylcheddol y Cyngor. Mae pob dydd yn wahanol, felly, os ydych chi’n hoff o amrywiaeth, mae arnom ni eisiau clywed gennych chi”.
I weld y swydd-ddisgrifiad llawn ac i wneud cais, dilynwch y cyfarwyddiadau isod.
Y dyddiad cau ar gyfer y swydd hon yw ddydd Gwener, 15 Tachwedd.
GWELD Y SWYDD DDISGRIFIAD