Fel rhan o’n hymrwymiad parhaus i hygyrchedd rydym wedi gosod teclynnau codi yn ein pyllau nofio yn y Byd Dŵr a chanolfan weithgareddau a hamdden y Waun.
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Mae’r teclynnau codi hyn yn cymryd lle’r rhai a oedd yno’n flaenorol, ond yn sgil eu hoedran, maent wedi cael eu huwchraddio.
Cafodd y teclynnau codi eu hariannu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Freedom Leisure.
Mae holl staff ochr y pwll a rheolwyr dyletswydd wedi cael eu hyfforddi i’w defnyddio, gan sicrhau y byddent ar gael bob amser tra bod ein canolfannau ar agor.
Dywedodd y Cyng. Beverley Parry Jones, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Ieuenctid, Gwrth-dlodi a Hamdden: “Mae’n bwysig sicrhau bod gan ein cyfleusterau hamdden fynediad llyfn i unrhyw un sy’n dymuno eu defnyddio.”
Dywedodd Andy Harris, Rheolwr Ardal Freedom Leisure: “Rydym yn falch o ddod a dau declyn codi newydd i’n cyfleusterau yn y Byd Dŵr a’r Waun. Mae’r teclyn hanfodol hwn yn creu cyfle i unrhyw gwsmer sydd â phroblemau symudedd i gael mynediad at ein pyllau a mwynhau buddion iechyd a lles y mae nofio yn ei ddarparu”
Gallwch ddarllen mwy am ein safleoedd yn Wrecsam isod:
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL