Yn ddiweddar, fe wnaeth teuluoedd sydd wedi gwneud byd o wahaniaeth i fywydau pobl ifanc trwy gynnig cartrefi sefydlog a chariadus gyfarfod â Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.
Galwodd Dawn Bowden AoS heibio i gyfarfod â theuluoedd mabwysiadol mewn sesiwn ‘chwarae ac aros’ yn Sychdyn yn Sir y Fflint, ac i glywed am eu profiadau a’r llu o wobrau (a heriau) sy’n dod gyda mabwysiadu plentyn.
Fe wnaeth y Gweinidog hefyd gyfarfod â chynrychiolwyr Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru, sy’n hyrwyddo ac yn cefnogi mabwysiadu ar draws y rhanbarth.
Mae sesiynau ‘chwarae ac aros’ yn un o’r ffyrdd y mae’r gwasanaeth yn cefnogi teuluoedd sydd wedi mabwysiadu plentyn yn ddiweddar, ac wedi’u cynllunio i helpu pobl i gyfarfod â mabwysiadwyr eraill ac adeiladu rhwydwaith cymorth.
Cyflwynwyd y Gweinidog hefyd i blant hŷn a fabwysiadwyd, a siaradodd am bwysigrwydd tyfu i fyny mewn cartref gofalgar a chariadus.
Dywedodd Dawn Bowden, y Gweinidog dros Blant a Gofal Cymdeithasol: “Mae wedi bod yn wych cwrdd â theuluoedd mabwysiadol yn y sesiwn Chwarae ac Aros a chlywed pa mor werthfawr yw mabwysiadu.
“Ym mis Tachwedd, dathlodd y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol ei ben-blwydd yn 10 oed. Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae wedi gwneud cyfraniad sylweddol at wella canlyniadau i fabwysiadwyr a phlant.
“Rwy’n falch o waith y Gwasanaeth ac yn diolch i fabwysiadwyr ledled Cymru sy’n gwneud penderfyniadau pwysig sy’n newid bywydau plant.”
Rheolir Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru gan Gyngor Wrecsam ar ran pob un o’r chwe awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru (Wrecsam, Sir y Fflint, Sir Ddinbych, Conwy, Gwynedd ac Ynys Môn).
Rhian Thomas, yng Nghyngor Wrecsam: “Mae cymaint o blant angen cartrefi diogel, sefydlog yng Ngogledd Cymru, a’n blaenoriaeth yw dod o hyd i deulu i’w caru a gofalu amdanynt.
“Roedd ein teuluoedd mabwysiadol wedi mwynhau cyfarfod â’r Gweinidog yn fawr, ac roedd yn gyfle da i siarad am sut y gallwn annog mwy o bobl i ystyried mabwysiadu.
“Mae mabwysiadu plentyn yn benderfyniad sy’n newid bywyd ac yn llawn eiliadau gwerth chweil… ond nid yw’n dod heb ei heriau, ac rydym yma i gefnogi pobl drwy bob cam o’u taith.”
I gael rhagor o wybodaeth am fabwysiadu, ewch i wefan Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru.