Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae negeseuon testun neu alwadau ffôn sy’n cynnig ad-daliad Treth y Cyngor yn dwyll!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Mae negeseuon testun neu alwadau ffôn sy’n cynnig ad-daliad Treth y Cyngor yn dwyll!
Pobl a lleY cyngor

Mae negeseuon testun neu alwadau ffôn sy’n cynnig ad-daliad Treth y Cyngor yn dwyll!

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 4, 2020 12:46 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Scams
RHANNU

Rydym wedi derbyn adroddiadau newydd o bobl yn derbyn negeseuon testun neu alwadau ffôn sy’n cynnig ad-daliad iddynt ar Dreth y Cyngor.

“Twyll ydi’r rhain!”

COFRESTRWCH I DDERBYN HYSBYSIADAU GWEITHGARWCH GRAEANU

Maent yn ffurfiau cyffredin o dwyll ac mae’n rhaid i ni bwysleisio eto nad yw’r negeseuon testun na’r galwadau ffôn yn wir.

Rydym yn gwybod bod unrhyw beth sy’n dweud ei bod yn bosib eich bod wedi talu gormod o Dreth y Cyngor yn gallu ymddangos yn atyniadol, a gall fod yn demtasiwn i ddilyn negeseuon o’r fath neu roi gwybodaeth dros y ffôn.

Fe wnaeth aelod o’r cyhoedd glicio ar y ddolen o fewn y neges destun ac fe gawsant eu cyfeirio at beth oedd yn ymddangos fel gwefan Cyngor Wrecsam. Yna gofynnwyd am eu manylion banc.

Yn syml – nid ydym yn anfon negeseuon testun nac yn gwneud galwadau ffôn i drigolion am Dreth y Cyngor.

Felly, gallwch fod yn sicr bod unrhyw neges destun neu alwad ffôn sy’n dweud wrthych eich bod wedi talu gormod o Dreth y Cyngor yn amheus.

Fel gydag unrhyw dwyll, dylech ystyried ambell reol syml –

Peidiwch â chlicio ar unrhyw ddolenni, peidiwch byth â rhoi unrhyw fanylion – fel cyfrineiriau neu rif cyfrif banc – a chofiwch fod gennych hawl i anwybyddu unrhyw negeseuon amheus. Os cysylltir â chi dros y ffôn peidiwch â rhoi na chadarnhau unrhyw fanylion. Yn hytrach na hynny dywedwch wrthynt y byddwch yn ffonio rhif y llinell gymorth isod i wirio’r manylion.

Ond beth os byddaf yn meddwl fy mod mewn credyd?

Os ydych yn meddwl eich bod mewn credyd gyda’ch cyfrif Treth y Cyngor, yna mae yna ffordd syml iawn i gael gwybod.

Ffoniwch ein llinell gymorth ariannol ar 01978 298992 neu e-bostiwch counciltax@wrexham.gov.uk

Fe fyddant yn hapus iawn i wirio eich cyfrif a rhoi unrhyw gymorth rydych ei angen.

Arhoswch yn ddiogel a byddwch yn ymwybodol o dwyll.

Derbyniwch y wybodaeth ddiweddaraf o ran graeanu yn syth i’ch mewnflwch

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new”] COFRESTRWCH FI RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Regional Cohesion Team pays tribute to volunteers during Volunteers Week Tîm Cydlyniant Rhanbarthol yn talu teyrnged i wirfoddolwyr yn ystod Wythnos y Gwirfoddolwyr
Erthygl nesaf Yn Cyflwyno Sesiwn Ynysu Ecsgliwsif Ar-lein Tŷ Pawb Yn Cyflwyno Sesiwn Ynysu Ecsgliwsif Ar-lein Tŷ Pawb

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Longest Yarn 2
Mae gwau lleol yn helpu i greu arddangosfa enfawr o’r Ail Ryfel Byd – peidiwch â cholli’ch cyfle i’w gweld!
Arall Digwyddiadau
Medi 15, 2026
Dysgu yn Wrecsam
Defnyddiwch yr offeryn defnyddiol hwn i ddarllen a gwrando ar newyddion a gwybodaeth y cyngor mewn unrhyw iaith
Busnes ac addysg
Medi 15, 2026
Mae hi'n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a'r brifysgol)
Mae hi’n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a’r brifysgol)
Datgarboneiddio Wrecsam Fideo
Medi 15, 2026
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Medi 15, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrecsam v Southampton – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam v Southampton – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 15, 2026
Cwmni gwaith coed o Wrecsam yn buddsoddi mewn gweithgynhyrchu uwch a thwf cynaliadwy
Y cyngor

Cwmni gwaith coed o Wrecsam yn buddsoddi mewn gweithgynhyrchu uwch a thwf cynaliadwy

Medi 15, 2026
Gwneuthurwr deunydd pecynnu o Wrecsam yn sicrhau grant Parth Buddsoddi i sbarduno twf a chreu swyddi
Y cyngor

Gwneuthurwr deunydd pecynnu o Wrecsam yn sicrhau grant Parth Buddsoddi i sbarduno twf a chreu swyddi

Medi 15, 2026
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Medi 14, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English