Mae Cyngor Wrecsam wedi talu teyrnged i’r cyn-gynghorydd a’r prif weithredwr, Bob Dutton OBE, a fu farw fis yma.
Dechreuodd Mr Dutton weithio ym maes llywodraeth leol fel dyn ifanc ddiwedd y 1960au, ac aeth ymlaen i gael gyrfa ragorol – gan wasanaethu yn y pen draw fel prif weithredwr Cyngor Bwrdeistref Wrecsam Maelor hyd at ei ymddeoliad ym 1995.
Yn 1999, dychwelodd i lywodraeth leol fel cynghorydd, gan gynrychioli ward Erddig am flynyddoedd lawer, hyd at 2017.
Bydd y faner yn Neuadd y Dref yn cael ei chwifio ar hanner mast dros y dyddiau nesaf fel arwydd o barch.
Mae’r Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor, wedi talu teyrnged i’r cyfraniad aruthrol a wnaeth Mr Dutton i Wrecsam yn ystod ei oes.
Meddai: “Roedd Bob yn ddyn gwych ac yn was cyhoeddus ymroddedig, a wnaeth gymaint dros Wrecsam.
“Fel uwch swyddog a phrif weithredwr, roedd yn allweddol yn perswadio llawer o fusnesau pwysig i ddod yma yn ystod y 1980au a’r 90au – gan helpu i greu miloedd o swyddi newydd a denu llawer iawn o fuddsoddiad busnes i Wrecsam.
“Roedd hynny mor bwysig ar adeg pan oedd diwydiannau traddodiadol fel cloddio am lo a dur yn dod i ben, a does dim dwywaith bod Bob wedi helpu Wrecsam i ddenu diwydiannau newydd a chreu dyfodol newydd i’w hun.
“Fel cynghorydd, cefais yr anrhydedd o weithio gyda Bob am flynyddoedd lawer, ac roedd yn ŵr bonheddig oedd bob amser yn gweithio’n ddiflino er lles pobl Wrecsam.
“Ar ran cynghorwyr a gweithwyr y cyngor, hoffwn estyn fy nghydymdeimlad diffuant i deulu Bob. Mae Wrecsam wedi colli un o’i gweision cyhoeddus pennaf, a bydd colled fawr ar ei ôl.”