Cymerwch Safle Treftadaeth y Byd. Ychwanegwch ychydig o gerddoriaeth, tân gwyllt ac awyrgylch gŵyl gwefreiddiol. Beth gewch chi?
O Dan y Bwâu!
Am y bumed flwyddyn yn olynol bydd y gyngerdd awyr agored hon yn cael ei chynnal ar odre Traphont Ddŵr Pontcysyllte – rhan o Safle Treftadaeth y Byd Wrecsam.
Enwodd y digwyddiad hwn y gorau yng Ngogledd Cymru at wobrau blynyddol Croeso Cymru yn ddiweddar, ac yr ail yng Nghymru i gyd.
Mae’r tocynnau ar gyfer y cyngerdd bellach ar werth, ond os oes arnoch chi angen rhywbeth i’ch atgoffa o wychder y digwyddiad yma, gwyliwch ein pigion gorau o 2016…
Trefnir y digwyddiad gan Gyngor Wrecsam ac mae’n cynnwys rhai o fandiau gorau’r fro.
Mae yna ffair fach i blant, digon o luniaeth ac arddangosfa dân gwyllt anhygoel ar ddiwedd y noson – gan oleuo’r draphont ddŵr fawreddog yn erbyn y gorwel.
Felly peidiwch ag oedi – archebwch eich tocynnau rŵan cyn iddyn nhw fynd i gyd.
ARCHEBU FY NHOCYNNAU