Rydym wedi gwneud gwaith ailwampio sylweddol ar gynllun tai gwarchod Tir y Capel yn Llai sy’n darparu llety byw yn annibynnol i bobl 60 oed a drosodd.
Cafodd y cynllun ei adeiladu’n wreiddiol yn 1984 yn Llai gan ddarparu 21 rhandy.
Roedd y gwaith ar y cynllun wnaeth gymryd dros 17 mis i’w gwblhau yn cynnwys stripio’r adeiladau yn ôl i’r gragen ac ychwanegu to newydd, inswleiddio waliau mewnol, rendro allanol a ffenestri gwydr triphlyg y tu allan.
Mae ardal y llawr wedi’i gynyddu drwy gynnwys cilfachau gyda chladin ymyl metel a tho sy’n trawsnewid edrychiad cyffredinol y cynllun. Mae’r tu mewn i’r rhandai wedi ei ailfodelu, gyda’r ceginau nawr yn uniongyrchol o’r ardal fyw i allu symud yn rhwydd o un le i’r llall a gosodwyd ystafelloedd gwlyb i ddarparu mynediad o’r cyntedd a’r ystafell wely.
Mae yna elfen adnewyddadwy mawr i’r prosiect, gyda phob rhandy yn cael ei wresogi gan bympiau gwres yr awyr. Mae paneli ffotofoltäig wedi eu gosod a’u cysylltu i’r ardal gymunedol i helpu i leihau costau ffioedd gwasanaeth i denantiaid ar gyfer gwresogi a thrydan ac mae pwyntiau gwefru cerbydau trydan wedi’i gynnwys.
Mae’r lolfa gymunedol wedi’i ailddylunio i’w defnyddio gan yr holl denantiad. Mae’r rhain yn cael eu defnyddio ar gyfer digwyddiadau cymdeithasol rheolaidd ac maent yn fannau cymdeithasol pwysig sy’n helpu gyda lles, unigrwydd ac ynysiad tenantiad.
Mae’r ardaloedd allanol wedi eu huwchraddio i ddarparu mynediad o amgylch yr adeilad a’r gerddi wedi eu tirlunio. Mae’r system larwm warden, system fynedfa fideo wedi’i uwchraddio a system chwistrellu newydd wedi’i osod.
Cafodd Penseiri Ellis Williams eu penodi i ddylunio a rheoli ailfodelu’r cynllun, oedd yn cynnwys llety un ystafell wely bach yn wreiddiol, nad oedd yn llwyddo i fodloni dyheadau llawer o bobl hŷn heddiw o ran dyluniad, lle, hygyrchedd ac effeithlonrwydd.
Cafodd y gwaith ailwampio ar raddfa fawr ei wneud gan gwmni lleol Read Construction.
Mae gwaith ailwampio yn parhau yn yr ail gynllun tai gwarchod yn Llys y Mynydd, Rhos a amcangyfrifir y cwblheir erbyn yr Hydref 2023.
Tir y Capel: cwblhawyd i safon uchel iawn
Dywedodd y Cynghorydd David Bithell, Aelod Arweiniol Tai: “Rydym yn gyffrous iawn i groesawu tenantiaid newydd a rhai sy’n dychwelyd i Dir y Capel. Mae’r llety newydd wedi’i gwblhau i safon uchel iawn ac rwy’n gyffrous i’r preswylwyr symud i mewn i beth sydd nawr yn enghraifft eithriadol o dai gwarchod a’r cyntaf o lawer o gynlluniau i gael eu hailwampio yn Wrecsam.”
Mae’r cyllid ar gyfer y gwaith wedi’i sicrhau o’r Cyfrif Refeniw Tai a Grant Tai Fforddiadwy Llywodraeth Cymru a Rhaglen Ôl-osod Wedi’i Optimeiddio.
I gael mwy o wybodaeth am gynlluniau Tai Gwarchod Cyngor Wrecsam ewch i: Safleoedd Tai Gwarchod (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Llun cyn gwneud y gwaith:
Nawr:
Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.
RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD