Mae gwneuthurwr gwaith coed o Wrecsam ar fin tyfu ei weithrediadau a gwella effeithlonrwydd yn dilyn cymorth drwy Raglen Parth Buddsoddi Wrecsam a Sir y Fflint.
Mae Derwen Joinery Ltd wedi sicrhau cymorth i fuddsoddi mewn offer newydd a fydd yn helpu’r cwmni i gynyddu cynhyrchiant, gwella cywirdeb ac ehangu ei alluoedd gweithgynhyrchu.

Wedi’i sefydlu gan y cyfarwyddwyr Jenny Roberts a Philip Roberts, mae Derwen Joinery yn cynhyrchu ffenestri, drysau, grisiau, drysau tân a chynhyrchion gwaith coed pwrpasol o ansawdd uchel ar gyfer prosiectau preswyl, masnachol a threftadaeth ledled y DU. Mae’r cwmni hefyd yn wneuthurwr drysau tân gydag ardystiad BM TRADA, sy’n adlewyrchu ei ymrwymiad i ansawdd a diogelwch.
Bydd y buddsoddiad yn darparu technoleg sganio digidol newydd, peiriannau gwaith coed uwch ac offer arbenigol, gan helpu’r busnes i symleiddio cynhyrchu, lleihau gwastraff ac ymgymryd â phrosiectau mwy cymhleth.
Mae’r prosiect yn adeiladu ar fuddsoddiad diweddar Derwen Joinery mewn peiriant dan reolaeth cyfrifiadur 5 echel, sydd eisoes wedi helpu i foderneiddio prosesau cynhyrchu a chefnogi datblygiad y gweithlu.

Cefnogwyd y prosiect gan Dîm Busnes a Buddsoddi Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, a weithiodd yn agos gyda’r cwmni i gael gafael ar gyllid drwy’r Rhaglen Parth Buddsoddi.
Dywedodd Jenny Roberts, Cyfarwyddwr Derwen Joinery Ltd, “Mae’r cymorth hwn yn gam pwysig yn ein taith dwf.
Hoffem ddiolch i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a’r Rhaglen Parth Buddsoddi am gydnabod ein huchelgais a chefnogi ein buddsoddiad parhaus mewn arloesi a thwf.
Bydd y buddsoddiad hwn yn ein helpu i foderneiddio ein gweithrediadau ymhellach, gwella cynhyrchiant, ac ehangu’r amrywiaeth o brosiectau y gallwn eu cyflawni, wrth barhau i greu cyfleoedd ar gyfer datblygu sgiliau a thwf cynaliadwy o’n canolfan yn Wrecsam.”
Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, yr Aelod Arweiniol dros yr Economi, Busnes a Thwristiaeth yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, “Hoffwn ddiolch i Philip a Jenny am gymryd yr amser i’m gwahodd i safle Derwen Joinery a dangos y gweithdai i mi.
Roedd yn wych gweld sut maent wedi llwyddo i ymgorffori crefftwaith traddodiadol ond hefyd cofleidio’r defnydd o dechnolegau modern i wella ac adeiladu eu cwmni.
Gyda chymorth cyllid gan y parth buddsoddi a phrynu sganiwr digidol, bydd hyn yn sicrhau eu bod ar flaen y gad gyda thechnoleg ac yn rhoi mantais iddynt dros eu cystadleuwyr gan helpu’r cwmni i fod yn fwy cynaliadwy ac ehangu.
Rydw i’n dymuno pob llwyddiant iddynt ar gyfer y dyfodol.”
Mae Rhaglen Parth Buddsoddi Wrecsam a Sir y Fflint yn cefnogi busnesau i fuddsoddi, tyfu ac arloesi, gan helpu i greu swyddi, rhoi hwb i gynhyrchiant a chryfhau sectorau allweddol ledled y rhanbarth.
I gwmni Derwen Joinery, mae’r buddsoddiad diweddaraf hwn yn gam pwysig arall yn ei dwf, gan helpu i sicrhau ei ddyfodol fel gwneuthurwr blaenllaw o gynhyrchion pren pwrpasol wrth barhau i fuddsoddi mewn cynaliadwyedd, sgiliau ac arloesi o’i ganolfan yn Wrecsam.


