Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gwneuthurwr deunydd pecynnu o Wrecsam yn sicrhau grant Parth Buddsoddi i sbarduno twf a chreu swyddi
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Gwneuthurwr deunydd pecynnu o Wrecsam yn sicrhau grant Parth Buddsoddi i sbarduno twf a chreu swyddi
Y cyngor

Gwneuthurwr deunydd pecynnu o Wrecsam yn sicrhau grant Parth Buddsoddi i sbarduno twf a chreu swyddi

Diweddarwyd diwethaf: Medi 15, 2026 9:41 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Gwneuthurwr deunydd pecynnu o Wrecsam yn sicrhau grant Parth Buddsoddi i sbarduno twf a chreu swyddi
RHANNU

Mae gwneuthurwr deunydd pecynnu yn Wrecsam ar fin ehangu cynhyrchu, creu swyddi newydd a chryfhau ei gynnig gweithgynhyrchu cynaliadwy yn dilyn cymorth gan Raglen Grant BBaCh Parth Buddsoddi Gogledd Cymru.

Mae Lyan Packaging Supplies Ltd, sy’n masnachu o dan yr enw Icertech, wedi sicrhau cyllid grant i gefnogi dylunio, cynhyrchu a gwaith gosod Peiriant Cynhyrchu Pecynnau Iâ Dŵr Aml-Boced pwrpasol yn ei gyfleuster yn Stad Ddiwydiannol Wrecsam.

Wedi’i sefydlu ym 1988, mae Lyan Packaging Supplies yn gweithredu fel masnachwr pecynnu, tra bod ei isadran Icertech yn arbenigo mewn datrysiadau pecynnu a reolir gan dymheredd ar gyfer y sectorau bwyd, diod a fferyllol. Mae’r cwmni’n cynhyrchu amrywiaeth o gynhyrchion pecynnu oer ar y safle yn Wrecsam.

Mae Icertech wedi cyflawni twf parhaus dros y degawd diwethaf ac mae’n parhau i fuddsoddi mewn arloesi ym maes gweithgynhyrchu. Ers cyflwyno cynhyrchu awtomataidd yn 2015, mae’r cwmni wedi ehangu’n sylweddol, gyda gweithgynhyrchu bellach yn cyfrif am tua hanner trosiant yr adran. Crëwyd chwe swydd llawn amser newydd yn ystod 2025.

Bydd y peiriant newydd yn cynyddu cynhyrchiant hyd at 40% ac yn cefnogi cynlluniau i dyfu cynhyrchiad blynyddol o 12 miliwn o unedau yn 2025 i 30 miliwn o unedau o fewn pum mlynedd. Mae’r busnes yn disgwyl i’r buddsoddiad helpu i ddyblu trosiant a chreu 10 swydd ychwanegol dros yr un cyfnod.

Mae’r prosiect yn adeiladu ar raglen ehangach o arloesi, gan gynnwys Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth Innovate UK sy’n canolbwyntio ar gynaliadwyedd, gwelliannau cynhyrchiant a gefnogir drwy Grant Busnes Wrecsam, a phrosiectau digideiddio a gyflwynir drwy ADAPTS Wrecsam.

Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, yr Aelod Arweiniol dros yr Economi, Busnes a Thwristiaeth, “Roedd yn bleser ymweld â Lyan a chael taith o amgylch eu ffatri.

Roedd yn wych gweld sut mae’r cwmni wedi mynd o nerth i nerth dros y blynyddoedd diwethaf gyda thwf cynaliadwy a’u cynnydd mewn staff. 

Gyda chymorth cyllid gan y parth buddsoddi, bydd y twf hwnnw’n parhau i’r dyfodol ar ôl prynu’r peiriant newydd, gan gynyddu cynhyrchiant a chynyddu’r angen am staff ychwanegol ymhellach.

Rydw i’n dymuno pob llwyddiant iddynt ar gyfer y dyfodol.”

Dywedodd Adam Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Lyan Packaging Supplies Ltd / Icertech, “Ar ôl masnachu fel busnes ers 1988, dyma’r amser gorau erioed i fod wedi ein lleoli yn Wrecsam.

Mae’r cymorth rydym yn ei dderbyn o ganlyniad i’r parth buddsoddi, a’r cyfleoedd ehangach i ddefnyddio arbenigedd lleol wedi bod yn wych. Rydym mor ffodus i fod wedi ein lleoli yn Wrecsam, gyda’r cymorth ardderchog sydd wedi’i roi i ni, ac i fod yn rhan o gymuned fusnes fywiog a ffyniannus.

Rydw i’n bersonol yn falch iawn o’r hyn rydym wedi’i gyflawni fel busnes, a’r potensial am lwyddiant a thwf ar gyfer yr ardal rydw i wedi tyfu i fyny ynddo”.

Mae’r Tîm Busnes a Buddsoddi yng Nghyngor Wrecsam wedi gweithio’n agos gyda’r cwmni i gefnogi ei uchelgeisiau ar gyfer twf a sicrhau buddsoddiad a fydd yn cryfhau’r economi leol.

Trwy gefnogi busnesau uchelgeisiol fel Lyan Packaging ac Icertech, mae Cyngor Wrecsam yn parhau i ysgogi buddsoddiad, arloesi a chreu swyddi ar draws y Fwrdeistref Sirol.

Rhannu
Erthygl flaenorol Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Erthygl nesaf Cwmni gwaith coed o Wrecsam yn buddsoddi mewn gweithgynhyrchu uwch a thwf cynaliadwy Cwmni gwaith coed o Wrecsam yn buddsoddi mewn gweithgynhyrchu uwch a thwf cynaliadwy

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Twf cynaliadwy gyda chefnogaeth Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam
Twf cynaliadwy gyda chefnogaeth Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 6, 2026
The Longest Yarn in Wrexham
Gwirfoddolwyr lleol yn helpu i adrodd stori Prydain yn y Rhyfel… pwyth fesul pwyth
Digwyddiadau Fideo Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Wrecsam letters at Erddig
Llythrennau eiconig WRECSAM yn dechrau eu pennod nesaf yn Erddig
Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Poppy field
Wrecsam yn Cofio
Digwyddiadau
Hydref 2, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Occupational Therapy Week poster
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol

Hydref 1, 2026
Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las
Y cyngor

Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las

Medi 29, 2026
Recycling
Y cyngor

Amseroedd gweithredu’r canolfannau ailgylchu

Medi 25, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Y cyngor

Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein

Medi 24, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English