Mae tiwtoriaid cerdd yn Wrecsam a Sir Ddinbych wedi cael eu galw’n arwyr am ddod i’r adwy trwy arloesi gwersi ar-lein yn ystod y pandemig.
“Dyma erthygl wadd gan gwmni Cerdd Cydweithredol Wrecsam a Sir Ddinbych”
Mae swyddog addysg Undeb y Cerddorion, David Barnard wedi canmol y modd y mae cwmni Cerdd Cydweithredol Wrecsam a Sir Ddinbych dielw wedi gweithredu’n gyflym ar ôl i adeiladau ysgolion gau wrth i argyfwng Covid-19 waethygu.
Meddai: “Fe ddylent fod yn eithriadol o falch o’r modd maent wedi gosod y safon i eraill ei dilyn wrth gyflwyno gwersi ar-lein.”
Make sure you know about changes to Covid-19 restrictions in Wales
Roedd y ddwy Gydweithredfa ymysg y cyntaf i symud gwersi offerynnau a llais ar-lein ar ddechrau’r cyfnod clo cyntaf ym mis Mawrth 2020. Maent wedi cynnal rhaglen gynhwysfawr o wersi ar-lein ers hynny, gan adeiladu at gannoedd o wersi yr wythnos a mynd y tu hwnt i’r hyn mae nifer o’u cydweithwyr yn ei wneud yn Lloegr.
Mae plant Kathy Davies o Goedpoeth Wrecsam, ac Alison Tardivel o Ruthun wedi elwa o’r gwersi. Bu’r ddwy yn canmol y cydlynwyr am sicrhau bod plant yn parhau i ymgysylltu â’r celfyddydau creadigol.
Bydd gwersi ar-lein bellach yn parhau i gael eu cynnig hyd yn oed wrth i Gymru symud tuag at ail afael mewn gwersi gyda phellter cymdeithasol yn yr ysgol.
Diolchodd sylfaenydd cwmni Cerdd Cydweithredol a Phennaeth Gwasanaeth Heather Powell i bob tiwtor am wynebu’r heriau a chynnal addysg cerdd yn ystod cyfnod mor anodd.
Dywedodd ei bod wedi rhyfeddu gyda’r hyn maent wedi llwyddo i’w gyflawni yn ystod y cyfnod clo. Roedd wedi rhagori ar ei holl ddisgwyliadau: “Mae dysgu ar-lein wedi bod yn llwyddiant mawr i ni yn 2021 gyda chymaint o ddisgyblion newydd yn ymgysylltu â gwersi digidol.
“Ar ein hanterth rydym ni’n cyflwyno bron i 800 o wersi yr wythnos.
“Rydym wedi cyflwyno gwersi ar draws y rhanbarth ac wedi gweithio’n galed i ddatblygu ein hadnoddau ar-lein ymhellach – www.totallymusic.com. Mae’r tiwtoriaid wedi bod yn arwyr gwirioneddol.
“Yn amlwg maent yn awyddus i gyflwyno gwersi byw lle mae hynny’n bosibl, gan ddefnyddio sgriniau persbecs a dilyn rheolau iechyd a diogelwch i gadw pellter cymdeithasol. Rydym ni’n annog cymaint o ysgolion â phosibl i achub ar y cyfle o ailafael mewn gwersi cerddoriaeth yn y dosbarth trwy ein gwasanaeth dros y misoedd sydd i ddod.
“Serch hynny mae hi’n bwysig nodi faint rydym i gyd wedi’i ddysgu trwy’r profiad yma ar-lein, a’r gwerth o gadw’r ddarpariaeth fel arf yn barhaol at y dyfodol.”
Roedd David Barnard, arweinydd Undeb Cerddorion y DU, trombonydd, arweinydd, darlithydd ac ymgynghorydd llawrydd sy’n arbenigo mewn addysg cerddoriaeth yn adleisio ei geiriau.
Dywedodd: “Alla’ i ddim canmol cwmni Cerdd Cydweithredol Sir Ddinbych a Wrecsam ddigon. Mae Heather a’i thîm wedi croesawu’r heriau gyda phositifrwydd gwirioneddol. Roeddynt yn gwbl bendant o gynnal mynediad at wersi i ddisgyblion sydd yn elwa o ran addysg cerddoriaeth a’u lles yn gyffredinol.
“Maent wedi arloesi yn y maes, mae’r llwyddiant maent wedi’i gyflawni yn ardderchog. Mae’n mynd ymhell tu hwnt i’r hyn sydd wedi cael ei gyflawni mewn rhanbarthau eraill. Mae yna ardaloedd yn Lloegr lle mai dim ond 30% sydd wedi cofrestru ar gyfer gwersi cerdd ar-lein, ond mae cydweithredfa Sir Ddinbych wedi bod yn uwch na hynny ers y dechrau.
Diolchodd Kathy Davies, mam o Goedpoeth i’r Gydweithredfa yn Wrecsam. Dywedodd bod ei mab, James Booth 8 oed, disgybl yn Ysgol Bryn Tabor wedi derbyn ei wersi piano ar-lein.
Dywedodd: “Fe wnaethom ni brynu allweddellau iddo ar gyfer y Nadolig ar ôl iddo ddechrau gwersi piano yn yr ysgol, yna daeth y cyfnod clo ac roeddem ni’n ofni na fyddai’n cael mwynhad llawn ohono. Dyna pam y penderfynom ni drefnu gwersi ar-lein. Mae gan yr allweddellau opsiwn piano a byddai James yn ei osod wrth y cyfrifiadur.
“Roedd yn rhoi ei allweddellau cerddoriaeth o flaen y sgrin lle byddai bysellfwrdd cyfrifiadur yn arfer mynd. Yna byddai’n gosod camera’r cyfrifiadur i’w wynebu fel bod y tiwtor yn gallu gweld yr allweddi. Roedd ganddo lyfr o ymarferion i ddysgu er mwyn paratoi ar gyfer gwersi. Mae wedi bod yn ffordd wych o roi hwb i’w hyder i’w baratoi at pan fydd gwersi cerddoriaeth fyw yn dychwelyd i’r ysgol.”
Un o’r ysgolion hynny lle mae’r gwasanaeth ar-lein wedi bod yn amhrisiadwy ydi Ysgol Bro Cinmeirch, Llanrhaeadr, ger Dinbych.
Dywedodd y Pennaeth Gwennol Ellis: “Mewn amgylchiadau arferol, mae 36% o’n disgyblion yn cael gwersi cerdd trwy gwmni Cerdd Cydweithredol Sir Ddinbych. O’r ffigur hwnnw, mae 65% wedi parhau â gwersi yn ystod y cyfnod clo.
“Mae rhieni wedi dweud wrthym sut mae’n helpu i wella creadigrwydd a lles plant, a’u gallu i ganolbwyntio.
“Mae gan nifer o’n dysgwyr cerdd berthynas dda gyda’u tiwtoriaid ac fe fyddent yn methu hynny os na fyddai’r cyfleuster ar-lein yma ar gael.
Yn eu mysg, mae’r brodyr Lucca a Nico Tardivel sydd yn ddisgyblion yn Ysgol Bro Cinmeirch. Mae Lucca, 11 oed yn cael gwersi canu gyda’r gantores opera proffesiynol Sioned Terry, ac mae Nico 9 oed yn cael gwersi gitâr gyda’r tiwtor Alex Cartwright.
Dywedodd eu mam Alison Tardivel o Ruthun: “Fe wnaethom ni benderfynu peidio â chofrestru’r bechgyn ar gyfer gwersi cerdd ar-lein yn ystod y cyfnod clo cyntaf. Ond fe wnaethom ni sylwi faint roeddynt yn colli cerddoriaeth. Felly pan ddechreuodd yr ail gyfnod clo fe benderfynom ni ymuno â gwersi ar-lein trwy’r gydweithredfa, a ‘de ni heb ddifaru.
Yn ôl ei Bennaeth Gwennol Ellis, mae llais Lucca yn ‘angylaidd’. Cafodd ei wersi eu hymestyn o 15 munud i 30 munud wrth iddo baratoi darn i gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd.
Dywedodd Alison: “Mae Sioned, ei diwtor, wedi bod yn wych. Mae hi’n hyfryd ei glywed o’n canu a’r ddau ohonynt yn ymarfer yn ystod yr wythnos. Fe lwyddodd i gael gwared ar rhywfaint o’r unigrwydd o addysgu o gartref.”
Dywedodd athrawes Lucca, Sioned Terry, y gantores Mezzo-soprano o Abergele bod Lucca yn llawn brwdfrydedd.
Dywedodd Sioned, sydd wedi perfformio gydag artistiaid yn cynnwys Catrin Finch, Wynne Evans, The Tenors of Rock a chorau meibion amlwg, ei bod yn croesawu’r cyfle i addysgu ar-lein trwy gwmni Cerdd Cydweithredol Sir Ddinbych.
Dywedodd: “Fe ddiflannodd cyfleoedd i berfformio’n fyw yn llwyr dros y flwyddyn ddiwethaf ac roedd dysgu wyneb i wyneb yn amhosibl gan fod angen cadw pellter cymdeithasol. Ond mae cwmni Cerdd Cydweithredol wedi bod yn fendith, gan alluogi i mi barhau i diwtora a chanu.
“Mae’r Gydweithredfa a chyfleusterau eraill ar-lein wedi helpu i gadw cerddoriaeth yn fyw. Mae Heather wedi datblygu’r cyfleuster yma a dwi’n hynod o ddiolchgar iddi am roi’r cyfle yma i mi.
Tiwtoriaid Cerdd wedi ymateb yn gyflym
Dywedodd Arweinydd Artistig cwmni Cerdd Cydweithredol Sir Ddinbych, Wyn Pearson, a greodd fideos ar-lein i hyrwyddo’r gwasanaeth mentora: “Cyn y Coronafeirws roeddem ni eisoes wedi ystyried cynnig opsiynau ar-lein i fyfyrwyr, ond mae’r pandemig yn golygu bod y syniad yma wedi digwydd yn llawer cynt. Roeddem ni’n gwybod na allai athrawon a pherfformwyr wneud eu swyddi ac nid oedd modd i ddisgyblion gael mynediad at wersi oni bai ein bod yn addasu ein gwasanaeth yn gyflym.
“Fe wnaethom weithio fel lladd nadroedd i ddarparu’r gwersi ar-lein gorau posibl a dwi’n meddwl y gallwn ni fod yn falch iawn o’r hyn rydym ni wedi’i gyflawni. Mae hi’n braf gwybod bod cymaint o bobl wedi rhoi adborth mor gadarnhaol i ni.”
Mae’r Gydweithredfa yn defnyddio Microsoft TEAMS i gyflwyno ar-lein ac mae llawer o ddisgyblion wedi parhau i sefyll arholiadau ar-lein a chymryd rhan mewn cystadlaethau cerdd yn ystod y cyfnod clo.
Dywedodd Heather: “Mae fy mhlant fy hun wedi parhau â gwersi piano, drymiau a’r sacsoffon ar-lein. Fel mam sydd yn gweithio’n llawn amser, dwi’n gwybod bod hyn wedi bod o fudd mawr i’w iechyd meddwl a lles yn ystod y pandemig.
“Mae nifer o’n dysgwyr prydau ysgol am ddim wedi ymgysylltu â gwersi ar-lein, ac rydym wedi bod yn brysur yn gweithio dros y we gyda gofalwyr ifanc a phlant sydd ag anghenion ychwanegol.”
I gael rhagor o wybodaeth am gwmni Cerdd Cydweithredol Sir Ddinbych neu Wrecsam, a’u gwersi cerdd yn yr ysgol, ewch i: www.denbighshiremusic.com neu www.wrexhammusiccoop.com ac i gael gwybodaeth am sesiynau gwersi ar-lein a gweithgareddau cerdd difyrrus, ewch i: www.totallymusic.com
SEE LATEST COVID RULES