Mae’r chwe thîm Cyfandirol UCI merched Prydain wedi eu cyhoeddi fel y timau cyntaf a gadarnhawyd ar gyfer Taith Prydain i Ferched agoriadol.
Fe’i cynhelir o ddydd Iau 6 Mehefin i ddydd Sul 9 Mehefin, bydd Taith Prydain i Ferched yn cynnwys pedwar cymal heriol a cyffrous, gan ddechrau yn y Trallwng, Cymru ac yn gorffen yn Leigh, Manceinion Fwyaf ble fydd yr enillydd yn cael ei goroni.
Mae Tîm Alba Development Road; DAS-Hutchinson-Brother UK; Doltcini-O’Shea; Hess Cycling Team; Lifeplus-Wahoo and Pro-Noctis – 200° Coffee – Hargreaves Contracting yn cwblhau’r rhestr o Dimau Cyfandirol UCI Prydeinig a fydd yn cystadlu yn y ras ryngwladol hon ym Mehefin.
Yn dychwelyd i Daith Prydain i Ferched fydd Lifeplus-Wahoo, Doltcini-O’Shea a DAS-Handsling. Maent i gyd wedi bod yn gystadleuol yn y Daith i Ferched, gyda’r beiciwr Prydeinig Alice Barnes yn gorffen yn chweched ar gyfer Lifeplus Wahoo, a adnabyddwyd yn flaenorol fel Drops, yn y GC o rifyn 2017.
Bu i Beckie Storrie o DAS-Hutchinson-Brother orffen ar y podiwm fel y Beiciwr Prydeinig Gorau yn Nhaith y Merched 2022 cyn symud i Daith y Byd Team dsm firmenich PostNL.
Yn dimau elît yn 2023, mae Tîm Alba Road Development a Pro-Noctis – 200° Coffee – Hargreaves Contracting wedi camu i fyny i statws Cyfandirol UCI ar gyfer y tymor hwn. Mae Tîm Hess Cycling wedi newid i drwydded Cyfandirol UCI Prydeinig, gan gynyddu nifer y timau Cyfandirol Prydeinig talentog ymhellach ar gylchred ddomestig 2024.
Hyd yma mae Lifeplus Wahoo wedi bod yn serenu yn ystod Cyfres Ffordd Genedlaethol – y brif gyfres rasio yn y DU i ddynion a merched – gan ennill yn y CiCLE Classic a’r Rapha Lincoln Grand Prix. Mae Tîm Alba Development Road wedi gorffen yn ail yn y CiCLE Classic a Classic Dwyrain Cleveland i Ferched, gyda Hess yn cwblhau’r podiwm yn drydydd yn Nwyrain Cleveland.
Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr British Cycling Events, Jonathan Day:
“Rydym yn falch o allu cyhoeddi mai’r chwe thîm Cyfandirol UCI Prydeinig yw’r rhai cyntaf i’w cadarnhau ar gyfer Taith Prydain i Ferched 2024.
“Mae’n wych bod gan y timau Cyfandirol UCI Prydeinig y cyfle i gymryd rhan mewn digwyddiad mor fawreddog yn lleol, o ystyried eu hymrwymiad i’r tymor rasio domestig. Rydym wedi gweld pa mor gyffrous yw gwylio’r timau hyn ac rydym yn gwybod y gall y cefnogwyr ddisgwyl profiad gwych fis nesaf.”
Mae’r pedwar cymal ar gyfer Taith Prydain i Ferched 2024 bellach wedi eu cyhoeddi ac maent ar gael ar wefan British Cycling.
Bydd cyhoeddiadau pellach am dimau Taith Prydain i Ferched 2024 yn fuan.
Timau Prydeinig ar gyfer Taith Prydain i Ferched 2024:
- Tîm Alba Development Road
- DAS-Hutchinson-Brother UK
- Doltcini-O’Shea
- Tîm Beicio Hess
- Lifeplus-Wahoo
- Pro-Noctis – 200° Coffee – Hargreaves Contracting
Llwybr ras y merched Taith Prydain 2024:
- Cymal 1 – Dydd Iau 6 Mehefin 2024: Y Trallwng i Landudno
- Cymal 2 – Dydd Gwener 7 Mehefin 2024: Wrecsam
- Cymal 3 – Dydd Sadwrn 8 Mehefin 2024: Warrington
- Cymal 4 – Dydd Sadwrn 9 Mehefin 2024: Manceinion Fwyaf: Canolfan Feicio Genedlaethol i Leigh
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Taith Prydain Merched – gwybodaeth am barcio a chau ffyrdd 6/7 Mehefin 2024
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch