Fyddwch chi’n mynd i’n marchnadoedd yn aml?
Mae’r marchnadoedd yn rhan fawr o hanes Wrecsam, ond dim ond hanner y stori yw hynny.
Mae Wrecsam yn adnabyddus fel tref farchnad, ac mae Marchnad y Cigyddion, y Farchnad Gyffredinol a’n Marchnad Awyr Agored ar ddydd Llun yn rhan fawr o fywyd pob dydd y dref.
Ac mae yna ystod eang o adolygiadau ar y ffordd.
Darllenwch yr wybodaeth isod i ddysgu mwy.
“Cynlluniau newydd ar gyfer marchnadoedd canol y dref”
Nôl ym mis Chwefror 2019 edrychodd y Pwyllgor Craffu Cyflogaeth, Busnes a Buddsoddi ar gyfleoedd datblygu Marchnad y Cigyddion, y Farchnad Gyffredinol a’r Farchnad Awyr Agored ar ddydd Llun sy’n cael eu cynnal ar Sgwâr y Frenhines a Stryt yr Arglwydd.
Nodwyd ganddynt fod hyd at £2 filiwn ar gael i fuddsoddi mewn cynlluniau i adfywio’r marchnadoedd.
Penderfynodd y Pwyllgor Craffu sefydlu Grŵp Tasg a Gorffen – grŵp bychan o gynghorwyr, i edrych ar faterion penodol ac adolygu a datblygu cynlluniau ar gyfer rhedeg y marchnadoedd a fydd yn cyfrannu at adfywiad canol tref Wrecsam.
Mae’r Grŵp Tasg a Gorffen wedi gorffen ei waith ac mae adroddiad ar ei ganfyddiadau a’i farn yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu ar 5 Chwefror.
Edrychodd y Grŵp ar lawer o wybodaeth i weld pa bethau y mae modd eu gwneud yn y marchnadoedd, gan gynnwys:
- Arolygon o ddefnyddwyr y farchnad a’r masnachwyr – bu i fwy na 350 o bobl fynegi barn
- Trafodaethau gyda chynrychiolwyr y masnachwyr, i wneud yn siŵr bod y rheiny sy’n ennill bywoliaeth yn y marchnadoedd yn derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sy’n digwydd
- Ymweliadau â marchnadoedd eraill yn y DU, gan gynnwys Altrincham, Caer ac Amwythig
- Adroddiadau ar y marchnadoedd gan fyfyrwyr Prifysgol Glyndŵr
- Y weledigaeth ar gyfer y marchnadoedd a amlinellir yn Astudiaeth Hen, sy’n eu gweld yn chwarae rhan allweddol ym mywyd canol y dref
O ganlyniad i’r gwaith yma mae’r Grŵp hefyd wedi llunio rhestr o argymhellion a fydd yn cael eu trafod gan y Pwyllgor Craffu Cyflogaeth, Busnes a Buddsoddi.
Mae’r argymhellion hynny yn cynnwys llunio cynllun busnes newydd ar gyfer adfywio Marchnad y Cigyddion a’r Farchnad Gyffredinol fesul cam, gan ddechrau gyda Marchnad y Cigyddion.
“Yn lle fedra i gael mwy o wybodaeth?“
Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn sy’n manylu ar ganlyniadau’r Grŵp Tasg a Gorffen yma.
Byddwn yn gweddarlledu cyfarfod y Pwyllgor Craffu felly bydd modd i chi i wylio’n fyw.
“Bydd gan y cyhoedd ddiddordeb mawr yn y drafodaeth hon”
Dywedodd y Cyng. Paul Roberts, Cadeirydd y Pwyllgor Craffu: “Dw i’n gwybod bod hwn yn bwnc agos at galon nifer o bobl yn Wrecsam, ac mae hynny’n ddigon teg.
“Mae marchnadoedd yn rhan fawr o hanes a gwneuthuriad y dref a bydd yr arolwg arfaethedig, sydd wedi derbyn llwyr gefnogaeth y Grŵp Tasg a Gorffen, yn cael effaith fawr.
“Bydd gan y cyhoedd ddiddordeb mawr yn y drafodaeth hon, a hoffaf eu hannog i wylio’r gweddarllediad.”
Mae’r adroddiad wedi derbyn cefnogaeth y ddau Aelod Arweiniol, y Cyng. Mark Pritchard (Cyllid, Perfformiad, Iechyd a Diogelwch a Llywodraethu) a’r Cyng. Terry Evans (Datblygu Economaidd ac Adfywio).
Derbyniwch y wybodaeth ddiweddaraf o ran graeanu yn syth i’ch mewnflwch
COFRESTRWCH FI RŴAN