Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Trafod adolygiad mawr o’r marchnadoedd ar 5 Chwefror
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Photo showing the eisteddfod site on a bright day with clear blue skies. The huge eisteddfod letters are in he foreground with the main pavillion in the background.
Cynllun mynediad am ddim i’r Eisteddfod i deuluoedd lleol ar incwm isel
Digwyddiadau Pobl a lle
Da i fusnes, da i gymdeithas: mae cyflogi rhywun ag anabledd dysgu yn gwneud synnwyr perffaith
Da i fusnes, da i gymdeithas: mae cyflogi rhywun ag anabledd dysgu yn gwneud synnwyr perffaith
Busnes ac addysg
trees
Fandaleiddio coed ym Mhlas Madog yn ennyn dicter y gymuned
Pobl a lle
9000
Wrecsam yn dathlu plannu dros 9000 o goed newydd
Pobl a lle Y cyngor
Ty Mawr
Parciau gwledig Wrecsam o’r awyr
Fideo Pobl a lle Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Trafod adolygiad mawr o’r marchnadoedd ar 5 Chwefror
Y cyngor

Trafod adolygiad mawr o’r marchnadoedd ar 5 Chwefror

Diweddarwyd diwethaf: 2020/01/30 at 11:32 AM
Rhannu
Darllen 4 funud
Markets
RHANNU

Fyddwch chi’n mynd i’n marchnadoedd yn aml?

Cynnwys
“Cynlluniau newydd ar gyfer marchnadoedd canol y dref”“Yn lle fedra i gael mwy o wybodaeth?““Bydd gan y cyhoedd ddiddordeb mawr yn y drafodaeth hon”

Mae’r marchnadoedd yn rhan fawr o hanes Wrecsam, ond dim ond hanner y stori yw hynny.

Mae Wrecsam yn adnabyddus fel tref farchnad, ac mae Marchnad y Cigyddion, y Farchnad Gyffredinol a’n Marchnad Awyr Agored ar ddydd Llun yn rhan fawr o fywyd pob dydd y dref.

Ac mae yna ystod eang o adolygiadau ar y ffordd.

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

COFRESTRWCH I DDERBYN HYSBYSIADAU GWEITHGARWCH GRAEANU

Darllenwch yr wybodaeth isod i ddysgu mwy.

“Cynlluniau newydd ar gyfer marchnadoedd canol y dref”

Nôl ym mis Chwefror 2019 edrychodd y Pwyllgor Craffu Cyflogaeth, Busnes a Buddsoddi ar gyfleoedd datblygu Marchnad y Cigyddion, y Farchnad Gyffredinol a’r Farchnad Awyr Agored ar ddydd Llun sy’n cael eu cynnal ar Sgwâr y Frenhines a Stryt yr Arglwydd.

Nodwyd ganddynt fod hyd at £2 filiwn ar gael i fuddsoddi mewn cynlluniau i adfywio’r marchnadoedd.
Penderfynodd y Pwyllgor Craffu sefydlu Grŵp Tasg a Gorffen – grŵp bychan o gynghorwyr, i edrych ar faterion penodol ac adolygu a datblygu cynlluniau ar gyfer rhedeg y marchnadoedd a fydd yn cyfrannu at adfywiad canol tref Wrecsam.

Mae’r Grŵp Tasg a Gorffen wedi gorffen ei waith ac mae adroddiad ar ei ganfyddiadau a’i farn yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu ar 5 Chwefror.

Edrychodd y Grŵp ar lawer o wybodaeth i weld pa bethau y mae modd eu gwneud yn y marchnadoedd, gan gynnwys:

  • Arolygon o ddefnyddwyr y farchnad a’r masnachwyr – bu i fwy na 350 o bobl fynegi barn
  • Trafodaethau gyda chynrychiolwyr y masnachwyr, i wneud yn siŵr bod y rheiny sy’n ennill bywoliaeth yn y marchnadoedd yn derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sy’n digwydd
  • Ymweliadau â marchnadoedd eraill yn y DU, gan gynnwys Altrincham, Caer ac Amwythig
  • Adroddiadau ar y marchnadoedd gan fyfyrwyr Prifysgol Glyndŵr
  • Y weledigaeth ar gyfer y marchnadoedd a amlinellir yn Astudiaeth Hen, sy’n eu gweld yn chwarae rhan allweddol ym mywyd canol y dref

O ganlyniad i’r gwaith yma mae’r Grŵp hefyd wedi llunio rhestr o argymhellion a fydd yn cael eu trafod gan y Pwyllgor Craffu Cyflogaeth, Busnes a Buddsoddi.

Mae’r argymhellion hynny yn cynnwys llunio cynllun busnes newydd ar gyfer adfywio Marchnad y Cigyddion a’r Farchnad Gyffredinol fesul cam, gan ddechrau gyda Marchnad y Cigyddion.

“Yn lle fedra i gael mwy o wybodaeth?“

Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn sy’n manylu ar ganlyniadau’r Grŵp Tasg a Gorffen yma.

Byddwn yn gweddarlledu cyfarfod y Pwyllgor Craffu felly bydd modd i chi i wylio’n fyw.

“Bydd gan y cyhoedd ddiddordeb mawr yn y drafodaeth hon”

Dywedodd y Cyng. Paul Roberts, Cadeirydd y Pwyllgor Craffu: “Dw i’n gwybod bod hwn yn bwnc agos at galon nifer o bobl yn Wrecsam, ac mae hynny’n ddigon teg.

“Mae marchnadoedd yn rhan fawr o hanes a gwneuthuriad y dref a bydd yr arolwg arfaethedig, sydd wedi derbyn llwyr gefnogaeth y Grŵp Tasg a Gorffen, yn cael effaith fawr.

“Bydd gan y cyhoedd ddiddordeb mawr yn y drafodaeth hon, a hoffaf eu hannog i wylio’r gweddarllediad.”

Mae’r adroddiad wedi derbyn cefnogaeth y ddau Aelod Arweiniol, y Cyng. Mark Pritchard (Cyllid, Perfformiad, Iechyd a Diogelwch a Llywodraethu) a’r Cyng. Terry Evans (Datblygu Economaidd ac Adfywio).

Derbyniwch y wybodaeth ddiweddaraf o ran graeanu yn syth i’ch mewnflwch

COFRESTRWCH FI RŴAN

Rhannu
Erthygl flaenorol Cardiff to Holyhead Newyddion da i bobl sy’n defnyddio’r trên rhwng Caerdydd a Chaergybi
Erthygl nesaf Old Roof Tiles Building House Ydych chi’n syrfëwr adeiladu sy’n chwilio am her newydd?

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Photo showing the eisteddfod site on a bright day with clear blue skies. The huge eisteddfod letters are in he foreground with the main pavillion in the background.
Cynllun mynediad am ddim i’r Eisteddfod i deuluoedd lleol ar incwm isel
Digwyddiadau Pobl a lle Gorffennaf 4, 2025
Da i fusnes, da i gymdeithas: mae cyflogi rhywun ag anabledd dysgu yn gwneud synnwyr perffaith
Da i fusnes, da i gymdeithas: mae cyflogi rhywun ag anabledd dysgu yn gwneud synnwyr perffaith
Busnes ac addysg Gorffennaf 4, 2025
trees
Fandaleiddio coed ym Mhlas Madog yn ennyn dicter y gymuned
Pobl a lle Gorffennaf 4, 2025
9000
Wrecsam yn dathlu plannu dros 9000 o goed newydd
Pobl a lle Y cyngor Gorffennaf 4, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

9000
Pobl a lleY cyngor

Wrecsam yn dathlu plannu dros 9000 o goed newydd

Gorffennaf 4, 2025
Ty Mawr
FideoPobl a lleY cyngor

Parciau gwledig Wrecsam o’r awyr

Gorffennaf 4, 2025
Strategaeth uchelgeisiol newydd yn elwa cymunedau Wrecsam sy'n caru pêl-droed
Pobl a lleY cyngor

Strategaeth uchelgeisiol newydd yn elwa cymunedau Wrecsam sy’n caru pêl-droed

Gorffennaf 3, 2025
Cyfle am fwyty neu gaffi yng nghanol Wrecsam
Y cyngor

Cyfle am fwyty neu gaffi yng nghanol Wrecsam

Gorffennaf 2, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English