Mae hi’n flwyddyn newydd, sy’n golygu y bydd nifer ohonom yn meddwl am ein haddunedau blwyddyn newydd…
Un o’r addunedau mwyaf cyffredin yw bod yn iachach ac yn fwy heini.
Ond nid yw hynny o reidrwydd yn golygu bod rhaid i chi ddechrau codi pwysau fel peth gwyllt fel Arnold Swarzenegger yn ei anterth 😉
Ffordd wych i ddechrau dod i batrwm yw cerdded.
Felly tynnwch y llwch oddi ar eich esgidiau cerdded, gwisgwch eich hetiau a’ch sgarffiau ac ewch am dro.
DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.
“Ble?” rydych chi’n gofyn.
Beth am un o’n parciau gwledig gwych? Os oes arnoch chi angen ychydig o ysbrydoliaeth, dyma gasgliad o rai o’n ffefrynnau.
Y Parciau
Be well? Mae’n agos i ganol y dref, gyda golygfeydd hyfryd, ac yn gyffredinol, mae’n lle gwych i ymweld ag o.
Felly os ydych chi’n awyddus i ddechrau drwy fynd am dro bach eithaf hamddenol, efallai mai dyma yw’r opsiwn gorau i chi.
Dyfroedd Alun
Mae Dyfroedd Alyn wastad yn opsiwn da.
Mae amrywiaeth o lwybrau coetir, glaswelltir neu ar hyd yr afon i chi ddewis o’u plith.
Tŷ Mawr
Mae Parc Gwledig Tŷ Mawr yn lle gwych i ymweld ag o.
Mae rhywbeth yn y parc i bawb – cyfle i fynd am dro fach neu i gerdded yn bell, golygfeydd godidog ac anifeiliaid fferm.
Parc Acton
Nid oes angen cyflwyniad i Barc Acton, ond os nad ydych chi wedi bod yno yn ddiweddar, yn sicr mi ddylech chi fynd draw am dro.
Melin y Nant
Os ydych chi’n awyddus i ddysgu am hanes Dyffryn Clywedog, treulio amser gyda’ch teulu ymhlith y golygfeydd godidog neu grwydro’r coetiroedd – mae Melin y Nant yn addas i bawb.
Parc Gwledig Brynkinalt
Mae wedi ei alw’n drysor cudd, ac mae yma olygfeydd arbennig dros y Waun tuag at fryniau’r Berwyn a Swydd Amwythig.
Yn gryno, mae llawer o lefydd gwych i fynd i gerdded yn Wrecsam… ffordd wych o drechu felan y flwyddyn newydd.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.
COFRESTRWCH FI RŴAN