Bydd y rhan fwyaf o adeiladau swyddfeydd Cyngor Wrecsam ar gau rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd – er y bydd y gwasanaethau hanfodol yn parhau i gael eu gweithredu.
Mae llawer o Gynghorau ar draws Cymru a gweddill y DU yn cwtogi gwasanaethau dros gyfnod y Nadolig, oherwydd y galw isel a’r gost o gadw adeiladau ar agor.
Eleni, bydd y Cyngor yn cau ei swyddfeydd ar Stryt y Lampint, Adeiladau’r Goron a Ffordd Rhuthun tua hanner dydd, ddydd Mawrth 24 Rhagfyr. Bydd yr adeiladau ar gau tan ddydd Iau, 2 Ionawr.
Trwy gau’r adeiladau hyn bydd y Cyngor yn cyflawni arbedion o ran costau nwy a thrydan.
Bydd ein gwasanaethau hanfodol yn parhau i weithredu. Mae’r rhain yn cynnwys timau ymateb brys priffyrdd a’r amgylchedd, cymorth ac atgyweirio tai a gwasanaethau gofal cymdeithasol penodol – er y bydd rhai gwasanaethau’n cael eu cwtogi.
Canolfannau Cyswllt
Bydd Galw Wrecsam (ein canolfan gyswllt wyneb yn wyneb yn Llyfrgell Wrecsam) yn cau am 12pm ddydd Mawrth, 24 Rhagfyr a bydd yn ailagor ddydd Iau, 2 Ionawr.
Dyma’r oriau agor / cau ar gyfer ein canolfan gyswllt dros y ffôn (01978 292000):
- Dydd Mawrth, 24 Rhagfyr – yn cau am 12pm.
- Dydd Mercher, 25 Rhagfyr (Dydd Nadolig) – ar gau.
- Dydd Iau, 26 Rhagfyr (Gŵyl San Steffan) – ar gau.
- Dydd Gwener 27 Rhagfyr – ar gau.
- Dydd Llun, 30 Rhagfyr – ar agor rhwng 9am a 4pm gyda gwasanaeth cyfyngedig.
- Dydd Mawrth, 31 Rhagfyr – ar agor rhwng 9am a 4pm gyda gwasanaeth cyfyngedig.
Cofiwch – mae modd cael mynediad at wasanaethau’r Cyngor ar-lein 24/7.
Tai
Bydd yr holl swyddfeydd ystadau tai ar gau o 12pm ddydd Mawrth, 24 Rhagfyr tan ddydd Iau, 2 Ionawr.
Gallwch roi gwybod i’r Cyngor am unrhyw faterion tai ar y rhifau ffôn canlynol:
- Atgyweiriadau tai (24 awr) – ffoniwch 01978 298993. Ar ôl oriau gwaith yn unig, gallwch hefyd anfon e-bost at wrexhamemergency@deltawellbeing.org.uk
- Digartrefedd – gallwch ffonio ein Tîm Dewisiadau Tai (24 awr) ar 01978 292947.
Gofal Cymdeithasol
Rhwng 12pm ddydd Mawrth, 24 Rhagfyr a 8.30am dydd Iau, 2 Ionawr bydd gofal cymdeithasol yn darparu gwasanaeth hanfodol mewn argyfwng yn unig.
Rhwng 8.30am a 5pm 28, 30 a 31 Rhagfyr, ar gyfer materion brys mewn perthynas â gofal cymdeithasol i blant, ffoniwch 01978 292039.
Ar gyfer materion brys (yn cynnwys rhyddhau o’r ysbyty) mewn perthynas â Gofal Cymdeithasol i Oedolion, ffoniwch 01978 292066.
Y tu allan i oriau swyddfa, gallwch gysylltu â’r Tîm Dyletswydd mewn Argyfwng ar 03450 533116.
Bydd yr holl wasanaethau’n ailddechrau ddydd Iau, 2 Ionawr.
Gwasanaethau Cofrestru
Bydd Neuadd y Dref ar agor i gofrestru marwolaethau’n unig.
Casgliadau Gwastraff
Bydd biniau’n cael eu casglu dros gyfnod y Nadolig, er y bydd rhywfaint o newidiadau i amserlenni.
Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref
Bydd yr holl ganolfannau ailgylchu gwastraff y cartref ar agor bob dydd ac eithrio Dydd Nadolig. Caiff y safleoedd eu rheoli gan FCC Environment.
Ewch â phrawf gyda chi eich bod yn byw yn y fwrdeistref sirol (e.e. bil cyfleustodau gyda’ch cyfeiriad arno).
Mae’r safleoedd hyn ar gyfer preswylwyr Wrecsam yn unig. Os nad oes gennych brawf eich bod yn byw yma, ni chewch adael eich sbwriel.
Tŷ Pawb
Dyma oriau agor / cau Tŷ Pawb:
- Dydd Mawrth, 24 Rhagfyr – 2pm cau
- Dydd Mercher, 25 Rhagfyr – gau
- Dydd Iau, 26 Rhagfyr – gau
- Gwener, 27 Rhagfyr – 11am-4pm
- Dydd Sadwrn, 28 Rhagfyr – 11am-4pm
- Sul, 29 Rhagfyr – closed
- Dydd Llun, 30 Rhagfyr – 11am-4pm
- Dydd Mawrth, 31 Rhagfyr – 11am-2pm
- Dydd Mercher, 1 Ionawr – gau
Llyfrgelloedd
Bydd pob llyfrgell gangen yn cau amser cinio ddydd Mawrth 24 Rhagfyr ac yn ailagor fel arfer ddydd Iau 2 Ionawr, 2025.
Bydd Llyfrgell Wrecsam yn cau amser cinio ddydd Mawrth 24 Rhagfyr ac yn ailagor ddydd Gwener 27 Rhagfyr hyd at ddydd Mawrth 31 Rhagfyr – 9.00-1.00pm (sylwch nad ydym yn agor ar ddydd Sul).
Bydd Llyfrgell Wrecsam ar gau ddydd Mercher Ionawr 1af 2025 a bydd yn ail-agor oriau arferol o ddydd Iau 2 Ionawr 2024.