Meddyliwch am leoliad Canol Tref gyda pharcio am ddim, bar trwyddedig, llwyth o ofod a sy’n gallu dal 350 o bobl – a beth sydd gennych chi? Neuadd Goffa Wrecsam.
Wedi’i lleoli yng nghalon Canol y Dref mae’r Neuadd Goffa yn lleoliad gwych gyda’r cyfleusterau i gynnal amrediad o wahanol ddigwyddiadau; priodasau, cyfarfodydd, partïon plant a dathliadau preifat i enwi dim ond rhai. Yn ogystal â chynnwys 2 far llawn mae gan y lleoliad hefyd gegin fawr sy’n golygu ei fod yn lleoliad perffaith ar gyfer unrhyw ddigwyddiad gyda gofynion arlwyo.
ALLECH CHI WNEUD GWAHANIAETH I FYWYD PLENTYN SYDD MEWN GOFAL?
Yn ogystal â bod yn ddewis delfrydol ar gyfer digwyddiad cymdeithasol neu i ddathlu, mae’r Neuadd Goffa hefyd yn berffaith ar gyfer digwyddiadau mwy egnïol ac ymarferol; gyda’r lloriau’n arbennig yn gwneud y neuadd yn addas ar gyfer dawnsio!
Ar hyn o bryd mae’r lleoliad yn cynnig nifer o ddosbarthiadau dawns drwy gydol yr wythnos:
Dyddiau Llun
• Dawns Amser Te – 2pm-4pm
• Dosbarthiadau Dawnsio Albanaidd/Dawnsio Clasurol – 7:30pm-9:30pm
Dyddiau Mawrth
• Dawnsio Llinell – 8pm-10pm
Dydd Iau
• Dosbarth Dawnsio Llinell Lladin – 10am-11am
• Dawnsio Llinell – 1pm-3pm
• Dosbarthiadau Dawnsio Clasurol – 8:30pm – 9:30pm
Mae’r neuadd hefyd yn cynnig noson soul yn fisol (a gaiff ei chynnal fel arfer ar yr 2il ddydd Sadwrn ymhob mis) yn ogystal â sesiynau rhoi gwaed rheolaidd drwy gydol y flwyddyn. Mae’r lleoliad hefyd wedi ei ddewis i groesawu rhai o berfformwyr mwyaf Focus Wales y mis Mai hwn; The Lovely Eggs, Boy Azooga, Kero Bonito a llawer mwy – edrychwch eich hun yma.
Os oes angen lleoliad Canol Tref arnoch i gynnal digwyddiad yn y dyfodol agos neu os oes gennych unrhyw ymholiadau eraill am y Neuadd Goffa gallwch cysylltwch â nhw ar y canlynol:
E-bost: memorialhall@wrexham.gov.uk
Ffon: 01978 292683.
DYSGWCH FWY AM FABWYSIADU