Yn ystod wythnos ddiwethaf, fe rhanasom ni – ynghyd â nifer o gyrff cyhoeddus eraill – negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol fel rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb.
Gall trosedd casineb ddigwydd ar sawl ffurf – gall fod yn fwy na cham-drin geiriol yn unig. Yn dibynnu ar yr amgylchiadau, gall ymosodiad, dwyn, ymddygiad bygythiol neu fandaliaeth fod yn droseddau casineb.
Gall trosedd casineb gael ei gyflawni yn erbyn rhywun am sawl rheswm, yn cynnwys eu hil, crefydd neu gredoau, hunaniaeth o ran rhywedd, rhywioldeb neu anabledd.
GALL Y DDAU GAM SYML YMA TROI CHI MEWN I ARCHARWR AILGYLCHU!
Mae’n amlwg na ddylai trosedd casineb fod yn ymddygiad derbyniol ym mywyd unrhyw un o ddydd i ddydd.
Ac er os nad ydym ni ein hunain yn ddioddefwyr o drosedd casineb mae’n ddyletswydd arnom i roi gwybod os ydym yn gweld ymddygiad o’r fath.
Mae swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru wedi cyhoeddi cyngor ar drosedd casineb a beth i’w wneud os yw’n digwydd i chi neu eraill.
Os nad yw dioddefwr eisiau dweud wrth yr Heddlu, mae llawer o ffyrdd eraill i gael cymorth.
Dywedodd y Cynghorydd Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Ieuenctid a Gwrthdlodi, sydd â chyfrifoldeb dros Gydraddoldeb: “Mae trosedd casineb, o unrhyw fath, yn annerbyniol a dylai dioddefwyr fod yn sicr bod cymorth ar gael iddynt pan maent ei angen.
“Gall trosedd casineb fod yn niweidiol iawn ac achosi dioddefwyr i gredu eu bod ar eu pen eu hunain, yn unig ac nad yw’r cymorth y maent ei angen ar gael. Ni ddylai hynny ddigwydd, a rhan o neges Wythnos Ymwybyddiaeth O Droseddau Casineb yw bod gwasanaethau cyhoeddus – o’r heddlu i’r awdurdodau lleol – yno i helpu.”
Sut i fod yn archarwr ailgylchu…mewn dau gam syml.
DERBYNIWCH AWGRYMIADAU AILGYLCHU