Mae Cymru yn cychwyn eu hymgyrch Chwe Gwlad nos Wener yma gyda gêm enfawr yn erbyn Ffrainc a pha le gwell i fwynhau’r holl gyffro nag ar y sgrin fawr yn Tŷ Pawb!
Mae hyb marchnadoedd, celfyddydau a chymunedol Wrecsam sydd wedi ennill sawl gwobr wedi dod yn lleoliad poblogaidd yng nghanol y ddinas i fwynhau digwyddiadau chwaraeon, gyda’i sgrin enfawr, awyrgylch cyfeillgar i deuluoedd a digon o seddi ar gael.
Bydd dewis o ddiodydd ar gael o’r bar, sydd bellach yn cael ei reoli gan dîm un o hoff fariau meicro Wrecsam, The Drunk Monk. Maen nhw wedi enwi eu menter Tŷ Pawb yn gyfieithiad Cymraeg Drunk Monk – Y Mynach Meddw!
Hefyd, bydd bwyd blasus ar gael ychydig gamau i ffwrdd oddi wrth ein masnachwyr ardal fwyd – cyris, byrgyrs, pasteiod, pwdinau a llawer mwy!
Bydd y rhan fwyaf o gemau yn cael eu cynnal yn ystod y dydd ar ddydd Sadwrn – cyfle perffaith i archwilio’r marchnadoedd, oriel, mwynhau cerddoriaeth fyw!
Gemau Chwe Gwlad Cymru
Ffrainc v Cymru
Dydd Gwener 31 Ionawr 2025
Cic gyntaf: 8:15pm
Yr Eidal v Cymru
Dydd Sadwrn 8 Chwefror 2025
Cic gyntaf: 2:15pm
Cymru v Iwerddon
Dydd Sadwrn 22 Chwefror 2025
Cic gyntaf: 2:15pm
Yr Alban v Cymru
Dydd Sadwrn 8 Mawrth 2025
Cic gyntaf: 4:45pm
Cymru v Lloegr
Dydd Sadwrn 15 Mawrth 2025
Cic gyntaf: 4:45pm