Os byddwch yn prynu cylchgronau yn rheolaidd, gallech wario ffortiwn fach. Ond y ffaith yw, mae’n bosib i’w gael am ddim.
Sut felly?
Wel, os ydych yn byw yng Nghymru, gallwch ddefnyddio eich aelodaeth llyfrgell i lawr lwytho copïau rhad ac am ddim i’ch ffôn, tabled neu PC.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Gallech arbed lawer o arian dros 12 mis. Gadewch i ni siarad rhifau.
Os ydych yn darllen cylchgrawn Hello!, gallech arbed £104 y flwyddyn.
Yn darllen Chat, Women neu Best? Gallech arbed £145 y flwyddyn.
Os byddwch yn prynu cylchgrawn Golf, gallech arbed dros £51 y flwyddyn.
Ac os ydych yn prynu cylchgrawn Soccer World, gallech arbed tua £54 y flwyddyn.
Pa mor dda yw hynny?
Gyda dros 250 o gylchgronau i ddewis ohonynt, mae’r rhain ddim ond ychydig o’r arbedion y gallwch eu gwneud os oes gennych gerdyn llyfrgell.
Ewch i’n prif wefan a dilyn y ddolen ‘e-gylchgronau.’
CAEL E-GYLCHGRONAU