Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Wel ar fy marw, Y Barnwr Jeffreys! A ydych chi’n gwybod yr hanes y tu ôl i’r tirnod hwn yn Wrecsam?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Wel ar fy marw, Y Barnwr Jeffreys! A ydych chi’n gwybod yr hanes y tu ôl i’r tirnod hwn yn Wrecsam?
ArallPobl a lle

Wel ar fy marw, Y Barnwr Jeffreys! A ydych chi’n gwybod yr hanes y tu ôl i’r tirnod hwn yn Wrecsam?

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 24, 2018 3:31 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
Wrexham Acton Park Gorsedd Stones
RHANNU

Ydych chi’n un o’r bobl hynny sy’n aml yn sylwi ar rywbeth diddorol, ond eto byth yn cwestiynu’r ystyr neu’r rheswm y tu ôl iddo?

Cynnwys
  • Parc Acton ei hun…
  • “Y barnwr gwaethaf i godi cywilydd ar y fainc”
  • Beth ddigwyddodd i neuadd Parc Acton?
  • Felly, sut mae’r cerrig yn berthnasol i hyn?
  • Ond pam cerrig?

Mae nifer ohonom yn euog o wneud hyn, ac er ei bod hi’n wych cydnabod prydferthwch rhywbeth, mae hefyd yn werth darganfod ei bwysigrwydd hanesyddol.

Mae rhai straeon arbennig o gwmpas, a byddwn yn archwilio rhai ohonynt, gan gychwyn gyda Pharc Acton ac yn benodol, Cerrig yr Orsedd.

Parc Acton ei hun…

Mae gan Parc Acton hanes hir yn dyddio’n ôl i’r 17eg ganrif pan oedd teulu’r Jeffreys yn byw yn Neuadd Acton.

“Pwy oedd teulu’r Jeffreys?” meddech chi…

Wel, yr aelod enwocaf o’r teulu yw’r Barnwr Crogi Jeffreys … neu George i’w ffrindiau agosaf.

Efallai eich bod chi rhywbryd wedi sefyll yng nghanol Cerrig yr Orsedd gan droelli mewn cylchoedd ac ail-adrodd “Y Barnwr Jeffreys” tair gwaith i weld a fyddai’n ymddangos … ond faint ydych chi’n ei wybod am ei hanes?

WEDI GWELD TIPIO ANGHYFREITHLON? GADEWCH I NI WYBOD YN SYTH AC YN HAWDD YMA

“Y barnwr gwaethaf i godi cywilydd ar y fainc”

I dorri stori hir yn fyr, profodd Jeffreys fywyd helyntus a gwnaeth sawl gelyn ar hyd y ffordd. Roedd yn enwog am fwynhau ei ddiod, ac ym 1680 fe ddaeth yn Brif Ustus Caer, a hynny er iddo gael ei adnabod fel: “y barnwr gwaethaf i godi cywilydd ar y fainc”.

Anwybyddodd y cyhuddiadau hyn a daeth yn Arglwydd Brif Ustus Lloegr gyfan ym 1683. Sicrhaodd Jeffreys y byddai ei enw yn cael ei gofio mewn hanes drwy’r Frawdlys Waedlyd yn 1685 pan ddienyddwyd bron i 300 o bobl gyda llawer mwy yn cael eu cludo fel gweision i India’r Gorllewin.

Yn y diwedd, cafwyd digon o’i ymddygiad, ac ym 1688 bu ymgyrch yn ei erbyn. Wrth iddo geisio ffoi, nid syndod iddo gael ei ddarganfod mewn tafarn â’i bocedi yn llawn o 35,000 o ginis a llwyth o nwyddau arian. Bu farw yn Nhŵr Llundain ym 1989.

Beth ddigwyddodd i neuadd Parc Acton?

Ail-adeiladwyd y neuadd ym 1695 gan Syr Griffith Jeffreys, ac fe’i prynwyd yn ddiweddarach gan Syr Foster Cunliffe, a atgyweiriodd yr eiddo gan ychwanegu aden newydd. Creodd hefyd barc wedi’i dirlunio â gardd a llyn wedi’u cau y tu ôl i wal.

Newidiodd yr eiddo ddwylo sawl gwaith cyn i’r Swyddfa Ryfel feddiannu Parc Acton ym 1939. Goroesodd y tŷ i ryw raddau, ond roedd mewn cyflwr gwael iawn.

Erbyn 1954, roedd y tŷ yn edrych yn flêr a dechreuodd y tîm dymchwel ar eu gwaith ym mis Awst y flwyddyn honno. Does dim yn weddill o’r tŷ erbyn hyn.

Felly, sut mae’r cerrig yn berthnasol i hyn?

Wel, i ddweud y gwir, dydyn nhw ddim .. does a wnelo’r cerrig ddim â theulu’r Jeffreys na hanes Parc Acton. Fe’u gosodwyd ym 1977 yn y paratoadau ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

Wrexham Acton Park Gorsedd Stones
Wrexham Acton Park Gorsedd Stones
Wrexham Acton Park Gorsedd Stones

Crëwyd y cylch cerrig a welir heddiw yn wreiddiol ar gyfer Eisteddfod 1933. Codwyd y cerrig ar gaeau chwarae ysgol Parc y Llwyni tan iddynt gael eu symud.

Yna ym 1977, fe’u symudwyd i Barc Acton ac maent wedi aros yno ers hynny.

Ond pam cerrig?

Ffurfir y strwythur cerrig â 12 piler carreg sy’n aml o’r ardal leol. Cânt eu gosod mewn cylch, ac un garreg fawr â brig fflat arni yn y canol a adwaenir fel y Maen Chwyf. Cânt eu gadael fel marc i nodi’r lle y cafodd yr Eisteddfod ei chynnal…

Caiff y cerrig hyn eu defnyddio wedyn fel rhan o seremoni cyhoeddi Eisteddfodau’r dyfodol a gaiff eu cynnal un flwyddyn ac un diwrnod cyn yr agoriad swyddogol. Arweinir y seremoni gan Archdderwydd Gorsedd y Beirdd.

Yn ystod y seremoni mae’r Archdderwydd yn sefyll uwchlaw’r Maen Chwyf.

Felly y tro nesaf y byddwch yn pasio heibio, broliwch a rhannwch yr wybodaeth hon â’ch ffrindiau. Er i’r parc ymddangos fel unrhyw barc dymunol iddyn nhw, fel y rhan fwyaf o bethau yn Wrecsam, yn aml iawn mae mwy o hanes i’r lle na’r disgwyl…

Wedi gweld tipio anghyfreithlon? Gadewch i ni wybod ar-lein

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/welsh/env_services/community_services/flytipping.htm “] DDWEDWCH WRTHYM AM DIPIO ANGHYFREITHLON AR-LEIN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Wrexham Council School Teaching Assistant A ydych chi eisiau swydd lle y gallwch gael effaith gadarnhaol ar fywydau plant?
Erthygl nesaf Wrexham Street Festival “Mae ‘na gymaint yn mynd ymlaen!”

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Britain in Bloom Wrecsam 2026
Pobl a lle

Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni

Awst 11, 2026
Water
ArallFideo

Arhoswch yn ddiogel o amgylch y dŵr

Awst 11, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Uwchraddio’r rheilffyrdd ar gyfer Gogledd Cymru ac ardal y ffin

Awst 10, 2026
Family Zone at the Wellbeing Hub
DigwyddiadauPobl a lle

Cofiwch – mae’r Parth Teulu yn cynnal sesiynau chwarae wythnosol am ddim drwy gydol gwyliau’r ysgol

Awst 10, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English