Mewn ymateb i’r tân yn Kronospan, rydym yn hysbysu trigolion lleol o’r canlynol:
Fe aeth nifer o foncyffion a deunydd sglodion coed, oedd wedi eu lleoli ar ran o iard goed Kronospan, ar dân oddeutu 02.00 dydd Llun, Ionawr 13, 2020.
DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.
Mae’r Gwasanaeth Tân wedi bod yn bresennol ers y digwyddiad ac wedi cadarnhau fod y tân o dan reolaeth. Bydd y tân sydd o dan reolaeth yn parhau i losgi am gyfnod o amser. Bydd y tân yn cael ei ddiffodd cyn gynted ag y bo’n ymarferol, yn dibynnu ar amodau’r tywydd.
Yn y cyfamser mae’r Cyngor yn cynghori trigolion y gymuned leol i ddilyn y cyngor canlynol a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru:
Os ydych mewn lle wedi ei effeithio gan fwg, arhoswch y tu mewn a chadwch y drysau a’r ffenestri yng nghau, ond agorwch nhw eto i awyru eich cartref pan fo’r mwg wedi mynd. Os oes angen i chi fod yn yr awyr agored, osgowch ardaloedd sydd wedi eu heffeithio gan fwg neu ludw, neu cyfyngwch yr amser yr ydych yn ei dreulio yno. Fe ddylai gyrwyr sy’n teithio drwy’r mwg gadw eu ffenestri ar gau, diffodd y system awyru a chadw’r awyrdyllau ar gau.
Fe all mwg niweidio’r llwybrau anadlu, y croen a’r llygaid gan arwain at dagu a gwichian, diffyg anadl a phoenau yn y frest. Gall hyn hefyd olygu fod problemau fel asthma yn gwaethygu, dylai pobl gydag asthma gludo eu hanadlydd gyda nhw bob amser.
Gall arogleuon sy’n gysylltiedig gyda thanau achosi annifyrrwch, straen a gorbryder, cyfog, cur pen neu bendro. Mae’r rhain yn adweithiau cyffredin i arogleuon, yn hytrach na’r sylweddau sy’n achosi’r arogl. Rydym yn gallu canfod arogleuon ar lefelau sy’n llawer is na’r hyn a all achosi niwed i iechyd.
Dylai unrhyw un sy’n pryderu am eu symptomau gysylltu â’u meddyg teulu neu Galw Iechyd ar 0845 46 47. Mae’r symptomau fel arfer yn diflannu’n gyflym ac ni ddylent arwain at broblemau iechyd hirdymor.“
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.
COFRESTRWCH FI RŴAN