Ar y cyd â’n partneriaid, rydym ar fin gwneud cais i ddod ag athletwyr gorau byd i’r ardal, wrth i ni drefnu i ddod â Chwpan Rygbi Cynghrair y Byd 2021 i Wrecsam.
Ar ôl derbyn caniatâd gan bob parti i fwrw ymlaen, fe allai’r Cae Ras ar Ffordd yr Wyddgrug fod yn gartref unwaith eto i’r gemau mwyaf yn y gystadleuaeth fawreddog sydd â chynulleidfa ar hyd a lled y byd.
Byddwn yn llunio’r cais ar y cyd â Chlwb Pêl-droed Wrecsam a Phrifysgol Glyndŵr ac fe fydd Crusaders Gogledd Cymru, Rygbi Cymru, Ian Lucas AS, Lesley Griffiths AC, gwesty’r Ramada Plaza a Grosvenor Pulford yn cefnogi’r cais.
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM EBOSTIAU WYTHNOSOL RŴAN.
Mae’r Aelod Arweiniol sydd â chyfrifoldeb dros Hamdden, y Cynghorydd Andrew Atkinson wedi canmol y cais “Dwi’n credu ei fod yn syniad ardderchog dod â digwyddiad chwaraeon gwych fel hyn i Wrecsam. Fe gawsom achlysur gwych a chafwyd cefnogaeth gref i’r digwyddiad a gynhaliwyd yma yn 2013, ac rwy’n gobeithio gweld Rygbi’r Gynghrair yn ôl yn yr ardal.
“Fe fyddai’r manteision economaidd a chwaraeon yn hwb mawr i’r sir a dwi’n credu y gallai adael gwaddol mawr.”
Fe ddefnyddiwyd y Cae Ras yn ystod twrnamaint 2013 pan chwaraewyd gêm grŵp a rownd yr wythnos olaf yno a chafodd y chwaraeon lawer o sylw yn yr ardal. Yn y gêm honno fe chwaraeodd Cymru yn erbyn yr UDA, ac yna fe chwaraeodd yr UDA yn erbyn y cewri o Awstralia o flaen torf o dros 5,000 o gefnogwyr.
Gallai fod yn ŵyl wych o rygbi gyda thwristiaid yn heidio i’r ardal yn eu cannoedd a miloedd, fe allai fod yn hwb enfawr i’r economi leol ac fe allai uno’r gymuned trwy chwaraeon. Fe wyliodd dros 18miliwn o bobl dwrnamaint 2013 ar draws y byd ac fe roddwyd Wrecsam ar fap Rygbi’r Gynghrair.
Rhagor o newyddion am y cais i ddod yn fuan.
COFIWCH EICH BINIAU