Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Wrecsam yn rhoi help llaw i ddraenogod gyda mil o gartrefi newydd
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Wrecsam yn rhoi help llaw i ddraenogod gyda mil o gartrefi newydd
Y cyngor

Wrecsam yn rhoi help llaw i ddraenogod gyda mil o gartrefi newydd

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 29, 2026 10:55 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Wrecsam yn rhoi help llaw i ddraenogod gyda mil o gartrefi newydd
RHANNU

Mae prosiect i gefnogi draenogod ledled Wrecsam wedi cael ei ganmol fel llwyddiant ysgubol ar ôl i fwy na 1000 o gartrefi draenogod gael eu creu gan breswylwyr, ysgolion a phartneriaid cymunedol.

Anogodd y Prosiect Adfer Draenogod, dan arweiniad y tîm Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, bobl i osod tai draenogod yn eu gerddi trwy roi cartrefi draenogod am ddim. 

Anogwyd pobl hefyd i greu “priffyrdd draenogod” mewn ffensys, gan helpu’r rhywogaeth boblogaidd i symud yn ddiogel rhwng mannau gwyrdd, rhoddwyd bwyd a llestri draenogod hefyd am ddim fel rhan o’r pecyn hwn.

Yn wreiddiol, roedd y prosiect yn bwriadu gosod 100 o gartrefi a phriffyrdd draenogod ar draws Wrecsam, ond mae’r ymateb gan y gymuned wedi rhagori ar y disgwyliadau o lawer.

Cofrestrodd dros 80 o bobl hefyd i fod yn llysgenhadon draenogod, gan helpu i godi ymwybyddiaeth, cefnogi cynefinoedd lleol ac annog eraill i weithredu dros ddraenogod.

Mae draenogod yn wynebu nifer o fygythiadau, gan gynnwys colli cynefinoedd, a gall darparu lleoedd diogel iddynt orffwys, bridio a gaeafgysgu wneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Roedd y prosiect hefyd yn cynnwys 5 digwyddiad a 13 sesiwn ysgol, gan helpu preswylwyr a phobl ifanc i ddysgu mwy am ddraenogod a’r camau syml y gallant eu cymryd i’w cefnogi.

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd, “Mae’r ymateb cadarnhaol i’r prosiect hwn wedi bod yn ysgubol, diolch yn fawr iawn i bawb a osododd dŷ draenogod, a greodd briffordd draenogod neu a helpodd i roi’r gair ar led.”

“Diolch i gefnogaeth preswylwyr, ysgolion, llysgenhadon a sefydliadau partner, mae mwy na 1000 o gartrefi draenogod wedi’u creu ledled Wrecsam.”

Dymuna’r tîm Lleoedd Lleol ar gyfer Natur hefyd ddiolch i bartneriaid y prosiect, gan gynnwys Jackson’s Animal Rescue, Sŵ Caer, Ymddiriedolaeth Natur Swydd Amwythig, yr RSPB, y tîm Benthyca a Thrwsio ac Andrew Ruscoe a Keith Sinclair, a gefnogodd y prosiect drwy ddigwyddiadau, sesiynau ysgol, cyflenwadau a mannau casglu.

Gall preswylwyr barhau i helpu draenogod trwy adael bylchau bach mewn ffensys, osgoi defnyddio cemegau a phlaladdwyr, edrych mewn glaswellt hir cyn ei dorri, darparu mannau diogel, cysgodol mewn gerddi a gadael rhan hir neu ‘anhrefnus’ o’u gardd ar gyfer draenogod a bywyd gwyllt.

Am fwy o wybodaeth am Leoedd Lleol ar gyfer Natur yn Wrecsam, cysylltwch â localplacesfornature@wrexham.gov.uk

Rhannu
Erthygl flaenorol Report hate crime Pam mae rhoi gwybod am droseddau a digwyddiadau casineb yn bwysig
Erthygl nesaf Registrars' Day Diwrnod Cenedlaethol y Cofrestryddion 2026

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi'u trefnu
Y cyngor

Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi’u trefnu

Hydref 20, 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor

Apêl cotiau gaeaf i blant 2026

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English