Mae Cyngor Wrecsam ar fin dechrau dymchwel hen Orsaf Heddlu Gogledd Cymru, Lôn Cae Gwilym, Cefn Mawr.
Trwy gyfrannu at raglen adeiladau newydd y Cyngor, mae’r datblygiad hwn yn cefnogi’r gwaith o ehangu opsiynau tai cymdeithasol.
Mae’r rhaglen adeiladu yn tanlinellu ymroddiad y Cyngor i gynyddu capasiti tai, diwallu anghenion preswylwyr yn unol â’r Polisi Dyrannu, ac alinio â blaenoriaethau’r Llywodraeth.
Mae gwaith dymchwel ar y safle hwn ar y gweill, gyda chais cynllunio i ddilyn yn fuan wedi hynny.
Mae’r cynigion yn cynnwys defnyddio’r safle yng Nghefn Mawr ar gyfer datblygu tai cymdeithasol yn y dyfodol. Er nad yw’r union fath o adeiladau wedi’i benderfynu eto, bydd unrhyw gynlluniau yn cael eu llywio gan anghenion tai lleol.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol Tai a Newid Hinsawdd, “Er bod hyn yn y camau cynnar o hyd, bydd y datblygiad hwn yn cynnig cyfle gwerthfawr i ni greu adeiladau newydd a hyrwyddo ein hymrwymiad i ddarparu tai cymdeithasol sy’n cwrdd â’r galw.”


