Mae Cyngor Wrecsam yn falch o gyhoeddi bod ei brosiect tai cynaliadwy cyntaf yn Heol Offa, Johnstown, bron â chael ei gwblhau. Mae’r datblygiad arloesol hwn yn rhan o ymrwymiad y Cyngor i fynd i’r afael â’r galw cynyddol am dai ynni-effeithlon o ansawdd uchel.
Mae’r prosiect, mewn cydweithrediad â Gareth Morris Construction (GMC), yn cynnwys bloc deulawr o fflatiau sy’n cynnwys fflatiau ag un ystafell wely. Mae’r fflatiau wedi’u cynllunio i fod yn hygyrch ac yn addasadwy, gan eu gwneud yn ddelfrydol ar gyfer deiliadaeth sengl neu gyplau.
Beth yw dull adeiladu modern?
Mae dulliau adeiladu modern (DAM) yn cyfeirio at dechneg dulliau adeiladu oddi ar y safle megis masgynhyrchu a chydosod mewn ffatri, sy’n symud o’r dulliau adeiladu traddodiadol. Mae’r broses hon yn defnyddio’r dechnoleg adeiladu ddiweddaraf, gan dynnu sylw at ymroddiad y Cyngor i arferion adeiladu modern ac effeithlon.
Mae gwaith wedi bod yn mynd rhagddo’n dda ac mae disgwyl iddo gael ei gwblhau erbyn canol 2025, a gall deiliaid contractau’r dyfodol edrych ymlaen at symud i’w cartrefi newydd yn fuan wedi hynny.
Hyd yn hyn, mae gwaith gosod ffenestri a drysau wedi’i gwblhau.


Mae gwaith gosod estyll cynnal, sy’n rhan allweddol o strwythur y nenfwd, wedi mynd rhagddo yn ôl y cynllun ac mae bellach wedi’i gwblhau, ochr yn ochr â blychau gwirio tân sydd wedi’u lleoli o fewn y nenfydau, a fydd hefyd yn cynnwys coleri tân, a fydd yn atal tân a mwg trwy waliau a lloriau cymaint â phosibl.
Mae gwaith trydanol wedi parhau yn ôl y cynllun, gan gynnwys gwaith gosod system chwistrellu niwl, sydd bellach wedi’i gwblhau. Ochr yn ochr â hyn, mae gwaith mewnol wedi cynnwys plastro, plymio a gosod haen rheoli anwedd, a fydd yn cynnal yr effeithlonrwydd thermol ac yn diogelu’r deunydd inswleiddio rhag lleithder.
Yn allanol, mae cysylltiadau trydan o brif gyflenwad y stryd i’r blychau mesurydd wedi’u cwblhau ac mae gwaith i osod Paneli Solar ar y to wedi dechrau.
Yn ystod yr wythnosau nesaf, ar yr amod bod y tywydd yn caniatáu, bydd y prosiect adeiladu yn gweld cynnydd sylweddol wrth i’r rendrad gael ei osod ar du allan yr adeilad, gan nodi cam hanfodol tuag at ei gwblhau.
Cefnogir y fenter hon gan arian grant gan Lywodraeth Cymru, gan dynnu sylw at bwysigrwydd datrysiadau tai cynaliadwy yng Nghymru.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol Tai a Newid Hinsawdd, “Rydym wrth ein bodd yn rhannu bod ein prosiect adeiladu yn mynd rhagddo’n rhwydd ac yn cynrychioli menter gyntaf y Cyngor yn ymwneud â Dulliau Adeiladu Modern. Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi wrth i ni barhau â’r daith gyffrous hon.”