Rydym wedi ymuno â rhwydwaith ryngwladol o ddinasoedd sy’n ymrwymo i feithrin a hyrwyddo’r dulliau gorau yn y byd ar gyfer rheoli coed trefol!
Cyhoeddodd Sefydliad y Diwrnod Plannu Coed y newyddion i gydnabod ein rhaglen blannu, ein gwaith i warchod coed a chynnal a chadw ein coedwig drefol. Mae Wrecsam yn ymuno â Chasnewydd fel yr unig ddwy ddinas yng Nghymru i gael yr anrhydedd hon, ac yn un o ddim ond 169 o ddinasoedd mewn 21 o wledydd ledled y byd!
I gael cydnabyddiaeth fel Dinas Goed, mae’n rhaid i drefi a dinasoedd ddangos eu bod yn ymrwymo i gyflawni pump o safonau:
- pennu cyfrifoldeb dros ofalu am goed
- creu strategaeth goed a pholisïau ar gyfer llywodraethu’r drefn o reoli asedau a rheoli risg yng nghyswllt coedwigoedd, coetir a choed
- cadw rhestr gyfoes o adnoddau coed lleol
- neilltuo adnoddau ar gyfer cynllun rheoli coed
- cynnal digwyddiadau blynyddol i glodfori coed a’u buddion, er mwyn addysgu ysgolion a chymunedau.
Sefydliad y Diwrnod Plannu Coed (Arbor Day Foundation) yw’r gymdeithas ddielw fwyaf yn y byd sy’n ymwneud â phlannu coed. Mae’r Sefydliad Bwyd ac Amaeth yn un o asiantaethau arbenigol y Cenhedloedd Unedig sy’n arwain ymdrechion rhyngwladol i drechu newyn. Daeth y ddau sefydliad ynghyd yn 2019 i sefydlu Dinasoedd Coed y Byd. Mae’r rhaglen yn ymgyrch fyd-eang i gydnabod dinasoedd a threfi sy’n ymrwymo i sicrhau bod eu coedwigoedd a’u coed trefol yn cael eu cynnal a’u cadw’n iawn, eu rheoli’n gynaliadwy a rhoi clod haeddiannol iddynt.
“Mae coed yn bwysig i bobl, dim ots o ba wlad y mae rhywun yn dod neu’r iaith y maent yn ei siarad,” meddai Dan Lambe, prif weithredwr Sefydliad y Diwrnod Plannu Coed. “Rydym oll yn dymuno byw mewn dinas iach, gydnerth a phrydferth – mae coed yn rhywbeth cyffredin sy’n gallu cyflawni hynny. Mae cael eich cydnabod fel un o Ddinasoedd Coed y Byd yn golygu bod eich dinas chi’n ymrwymo i wneud mwy na’r arfer i ddynodi coed yn seilwaith gwyrdd hanfodol ar gyfer eu pobl.”
Meddai’r Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Cynllunio: “Rydym wrth ein boddau bod Wrecsam wedi’i chydnabod yn un o Ddinasoedd Coed y Byd. Rydym yn falch o ymuno â rhwydwaith byd-eang o ddinasoedd a threfi sy’n ymrwymo i warchod a chynyddu eu stoc o goed a hyrwyddo eu gwerth drwy feithrin cyswllt â’r gymuned a rheoli eu hasedau’n dda.
“Drwy ein rhaglen plannu coed dros yr hydref a gaeaf rydym wedi plannu mwy na 10,000 o goed ledled y sir. “Mae hynny’n cynnwys amrywiaeth o goed, gan gynnwys marchwiail llydanddail cynhenid a choed safonol mawr, yn ogystal â nifer o berllannau ffrwythau. Mae hyn yn cyfrannu at ein huchelgais i gynyddu’r gorchudd coed ledled Wrecsam i 20% erbyn 2026.”
Dywedodd Darren Williams, Prif Swyddog yr Amgylchedd a Thechnegol, “Mae cael ein henwi’n un o Ddinasoedd Coed y Byd yn gydnabyddiaeth o waith caled ein staff a gwirfoddolwyr yn y blynyddoedd diwethaf yn plannu, gwarchod a rheoli’r coed sydd mor bwysig i’n hiechyd a lles, a’r economi leol.
Rydym yn ddiolchgar iawn am yr anrhydedd hon, a byddwn yn dal i ymrwymo i warchod a gwella ein coed a’n coetir sydd gyda’i gilydd yn ffurfio coedwig drefol Wrecsam.”
Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.
RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD