Pwysau gwaed cynyddol uchel? Perygl o strôc? Perygl uwch o glefyd y galon?
Gallwn gytuno bod yr afiechydon hyn yn rhywbeth na hoffwn ddioddef ohonynt, ond eto mae sawl ohonom yn parhau i fwyta mwy na’r uchafswm o 6g o halen a argymhellir mewn diwrnod (un llwy de) sy’n gwneud yr afiechydon hyn yn fwy tebygol.
Wel, yr wythnos hon yw Wythnos Ymwybyddiaeth Halen. Felly, sut y gallwn gyfyngu ar yr halen rydym yn ei fwyta?
- 1. Dechrau o’r dechrau!
Un o’r ffyrdd hawddaf yw coginio ein prydau o’r dechrau, sy’n golygu ein bod yn gwybod yn union faint o halen sy’n mynd i mewn i’n bwyd. Blaswch eich bwyd cyn ychwanegu halen – efallai nad ydych ei angen – a gallwch geisio ychwanegu perlysiau a sbeisys yn ei le! - 2. Faint sydd yno’n barod?
Sicrhewch eich bod yn gwybod y manylion am faint o halen sydd yn eich cynhwysion. Mae gan fwydydd fel caws neu gig moch lefel uchel o halen, felly dewch o hyd i faint sydd yn eich pryd cyn ychwanegu mwy.
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM EBOSTIAU WYTHNOSOL RŴAN.
- 3. Darllenwch y label – a dewch o hyd i’w ystyr!
Os ydych chi’n mynd i’r afael â’r labeli ar eich bwydydd a deall beth mae’r rhifau yn golygu, efallai y byddwch yn dod o hyd i halen cudd yn eich deiet. Er enghraifft, mae grawnfwydydd brecwast, sawsiau megis saws tomato a bwydydd mewn tun yn aml yn gysylltiedig â lefelau siwgr a halen uchel, felly sicrhewch eich bod yn glynu at faint y dogn ar y pecyn. - 4. Dewisiadau lu…
Mae gan sawl math o fwyd ddewis halen isel, felly ceisiwch chwilio am ‘rhain pan fo hynny’n ymarferol. Mae’r rhain yn cynnwys pethau fel ffa pob, saws soi a saws tomato.
Beth yw ‘uchel’?
Mae canllawiau GIG yn datgan bod gan fwydydd sy’n cynnwys lefelau uchel o halen 1.5g i bob 100g, ac mae gan fwydydd sy’n cynnwys lefelau isel o halen 0.3g neu lai i bob 100g. Felly, yn syml, byddai edrych ar y label yn golygu eich bod yn ymwybodol o beth rydych yn ei brynu.
Faint sy’n iawn?
Mae faint o halen ‘rydych yn gallu ei fwyta yn dibynnu ar eich oedran. Dyma ganllawiau GIG:
Babanod o dan 1 – llai na 1g o halen y diwrnod
Rhwng 1 a 3 mlwydd oed – 2g o halen y diwrnod (0.8g o sodiwm)
Rhwng 4 a 6 mlwydd oed – 3g o halen y diwrnod (1.2g o sodiwm)
Rhwng 7 a 10 mlwydd oed – 5g o halen y diwrnod (2g o sodiwm)
11 mlwydd oed ac uwch – 6g o halen y diwrnod (2.4g o sodiwm)
Os oes angen rhagor o gyngor arnoch mae gan https://www.nhs.uk/change4life adnoddau da o gymorth i chi, megis yr ap sganio bwyd, a digon o ryseitiau er mwyn roi cynnig arnynt.
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am ebostiau wythnosol rŵan.
COFIWCH EICH BINIAU