Cynhelir Wythnos Gofalwn Cymru rhwng 11 a 17 Hydref. Bydd yr wythnos yn rhoi darlun o sut beth yw gweithio ym maes gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal plant.
Nod yr wythnos yw tynnu sylw at yr amrywiaeth o swyddi sydd ar gael yn y sector ac i roi cydnabyddiaeth haeddiannol i’r sector gofal cymdeithasol am ei waith caled!
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Yn Wrecsam, mae pobl sydd rŵan hyn yn aros am ofal, ac rydym yn awyddus i annog gymaint o bobl â phosib i gael golwg ar yr hyn sydd gan y gwaith gwerthfawr hwn i’w gynnig.
Cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol i weld astudiaethau achos Gofalwn Cymru i’ch helpu i gymryd y cam i faes gofal cymdeithasol.
Os ydych chi eisiau gwybod mwy am weithio ym maes gofal cymdeithasol yn Wrecsam, anfonwch e-bost at wrexcare@wrexham.gov.uk.
Meddai’r Cynghorydd John Pritchard, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion, “Mae cyfleoedd nawr i bobl symud i gyflogaeth gofal cymdeithasol yn Wrecsam ac rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i annog pobl i ddod i wybod mwy a chymryd y cam.
“Darperir hyfforddiant llawn a byddwch yn cael eich cefnogi bob cam o’r ffordd. Mae’n fwy na gweithio gydag oedolion yn unig, mae’n cynnwys gweithio gyda phlant a phobl ifanc hefyd, felly cymerwch amser i ddysgu mwy ac ystyried gweithio yn y maes gwerthfawr hwn.”
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL