Fel rhan o Fand B o’n Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif rydym yn buddsoddi £4.5m yn ailddatblygiad Ysgol yr Hafod, Ffordd Bangor er mwyn gwella’r cyfleusterau addysgol yno i blant a staff fel ei gilydd ac uno’r ysgol ar un safle. Bydd y gwaith yn cynnwys ailddatblygu’r hen ysgoldy fel y gallwn ddiwallu hawliau addysg y blynyddoedd cynnar gan olygu y bydd yr un safle hwn yn cartrefu pob disgybl o 3 i 11 oed.
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
O ddydd Mawrth, 1 Mawrth 2022 bydd pob grŵp oedran yn cael eu haddysgu dros dro yn safle’r cyfnod sylfaen (Melyd Avenue) fel y gall gwaith ar safle Ffordd Bangor gychwyn.
Bydd y safle yn Ffordd Bangor yn cael ei drosglwyddo i ddwylo ein contractwr ac yn cael ei ddosbarthu’n safle adeiladu felly ni chaniateir mynediad o gwbl i’r safle hwnnw.
Disgwylir y bydd Wynne Construction yn dechrau gwaith ar safle Ffordd Bangor ddiwedd Mawrth/dechrau Ebrill.
Bydd wyneb Fictoraidd adeilad safle Ffordd Bangor yn cael ei gadw fel rhan o dreftadaeth yr ardal. Disgwylir y bydd y gwaith yn para 52 wythnos ac y bydd wedi’i gwblhau erbyn mis Ebrill 2023.
Mae Adain Diogelwch y Ffyrdd yr Adran Briffyrdd wedi bod yn gweithio gydag Ysgol yr Hafod i sicrhau y cedwir problemau traffig cysylltiedig â’r ailddatblygiad ac adleoliad disgyblion i’r isafswm.
Sefydlwyd sawl mesur i liniaru pryderon parcio’r preswylwyr lleol. Mae hyn yn cynnwys marciau ffordd bar-H gwyn ychwanegol ac rydym hefyd yn gofyn i bobl fod yn ystyriol o breswylwyr yn ystod cyfnodau prysur ac i osgoi parcio ar draws ddrefiau neu barcio mewn ffordd sy’n tarfu ar lif y traffig.
Bydd Croesfan yr Ysgol yn cael ei symud i safle’r cyfnod sylfaen drwy gydol y cyfnod er mwyn helpu staff yr ysgol ar ddechrau a diwedd y diwrnod ysgol.
Rydym yn annog rhieni a gwarcheidwaid i gerdded eu plant i’r ysgol a byddwn yn annog teithio llesol dros y 12 mis nesaf gyda dyddiau cerdded i’r ysgol dynodedig.
Oherwydd bod parcio ar gyfer staff yn safle Melyd Avenue yn gyfyngedig, rydym yn gweithio gyda’r ysgol a’r Clwb Bowlio i greu mwy o le.
Wrth i’r prosiect symud yn ei flaen byddwn yn rhoi rhagor o wybodaeth am y gwaith yn Ffordd Bangor a’r mesurau parcio ychwanegol y cytunwyd arnynt fel rhan o’r amodau cynllunio.
Byddwn yn rhoi diweddariadau rheolaidd i’r gymuned a mwy o wybodaeth am amserlenni’r gwaith wrth i’r prosiect symud yn ei flaen.
Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg Cyngor Wrecsam: “Dim ond rhan o’n hymrwymiad parhaus i ddiweddaru a gwella cyfleusterau ar draws y sir i’n dysgwyr ifanc yw’r datblygiad cyffrous hwn.”
Dywedodd y cynghorydd lleol a Chadeirydd y Llywodraethwyr yn Ysgol yr Hafod, y Cynghorydd David A Bithell: “Ar ran Corff Llywodraethu’r Ysgol hoffwn ddiolch i’r gymuned am eu hamynedd a’u dealltwriaeth wrth i ni weithio tuag at ddarparu canolbwynt dysgu gwych a fydd o fudd i genedlaethau i ddod.”
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL