Mae’n sicr wedi bod yn daith ddiddorol hyd yn hyn gyda’r clwb yn gwneud penawdau ar draws y byd.
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Fel nod i’r perchnogion newydd mae’r artist llif gadwyn leol hynod dalentog Simon O’Rourke wedi cynhyrchu rhywbeth eithaf arbennig ac yn gobeithio cael hwyl gyda hi wrth godi arian ar gyfer dwy elusen leol.
Ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn (22 a 23 Hydref) bydd cerflun o Deadpool yn teithio o amgylch Wrecsam (gweler isod am fanylion) ac mae pobl yn cael eu hannog i gymryd hunluniau gyda’r gwaith celf a phostio gyda’r #nod #Wrexhamdeadpooltour – ac os ydych yn cymryd 3 hunanllun mewn 3 lleoliad mae yna siawns y gallwch enill wobr.
Ar ôl y daith, bydd y cerflun yn cael ei rafflo, a bydd yr arian yn cael ei rannu rhwng Hosbis Tŷ’r Eos a Teams 4U.
Lleoliadau ac amseriadau i weld y cerflun (brasamcan):
Dydd Gwener:
One Planet (Llandegla) – 9yb
Morrisons (Wrecsam) – 10.30yb
Twr Redwither – 12.00
Gresford Colliery Club – 1.30yp
The Lemon Tree – 2.30yp
Wrexham Lager – 3.30yp
Clwb pêl droed Wrecsam/ The Turf – 5yp
Dydd Sadwrn
Byd Y Dŵr – 9yb
Eglwys San Silyn – 10.30yb
Dol yr Eryrod – 12.00
Tŷ Pawb – 1.30yp
Amgueddfa Wrecsam – 2.30yp
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL