Mae tîm Caffi Cowt Amgueddfa Wrecsam yn dathlu ar ôl ennill Her Bwyd Blwyddyn Darganfod 2019!
Mae ymgais yr Amgueddfa, a elwir yn ‘Nef ar y Ddaear’, yn gyfuniad breuddwydol o gacen siocled, aeron ac hufen iâ espresso.
Dewiswyd yr enillydd gan banel o feirniaid mewn rownd derfynol a gynhaliwyd ddoe yn y Bwyty Celstryn ar gampws Coleg Cambria yn Glannau Dyfrdwy.
Dathliad o fwyd lleol
Mae Her Bwyd Blwyddyn Darganfod Gogledd Ddwyrain Cymru yn ymwneud â dathlu a chodi ymwybyddiaeth o’r golygfa fwyd anhygoel sydd gennym yn ein hardal leol.
Cymerodd 19 o westeion o Ogledd Cymru ran yn y gystadleuaeth mewn nifer o gategoriau.
Cafodd dîm o siopwyr dirgel y dasg o flasu a sgorio’r prydau iddewis pwy aeth i’r rownd derfynol.
Enillod Caffi Cowt yr Amgueddfa Wrecsam o flaen Caffi Strawberry Fields yn siop Bellis Brothers (yn Holt).
Cyflwynwyd y wobr gan Dafydd Elis-Thomas AC, y dirprwy weinidog dros ddiwylliant, chwaraeon a thwristiaeth.
‘Mor hapus’
Dywedodd Karen Harris, rhan o dîm Caffi Cowt yr Amgueddfa: “Rydym mor hapus ein bod wedi ennill! Mae’n anrhydedd mawr i ni ddod ar frig rhestr a oedd yn cynnwys rhai o’r caffis a’r bwytai gorau yng Ngogledd Cymru.
“Roedd ein cofnod yn ddathliad go iawn o fwyd lleol yng Ngogledd Cymru, rhywbeth rydyn ni’n falch iawn i arddangos yn Caffi Cowt yr Amgueddfa. Fe wnaethon ni ddefnyddio amrywiaeth o gyflenwyr bwyd lleol i greu’r pwdin, gan gynnwys Eat My Flowers, Celtic Honey Smith, Chilly Cow Ice Cream, Aballu Artisan Chocolatier a Mrs Picklepot. Mae’n wych gweld bod hyn wedi’i gydnabod.”
Dywedodd yr Aelod Arweiniol dros Bobl – Cymunedau, Partneriaethau Diogelwch y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol, y Cynghorydd Hugh Jones: “Mae’r wobr hon yn haeddiannol iawn ac rwy’n falch iawn bod gwaith caled tîm Caffi Cowt yr Amgueddfa, Karen Harris, Paula Hanmer a Caroline Roberts wedi cael ei gydnabod.
“Mae’r Caffi Cowt yn gwneud ymdrech fawr i arddangos cyflenwyr bwyd lleol, nid yn unig gyda’r ymgais i’r cystadleuaeth ond gyda’u holl brif brydau a’r cynnyrch maent yn ei werthu.
“Bydd y wobr hon yn gwella eu henw da ymhellach a byddwn yn annog pawb i ymweld â’r Amgueddfa a Chaffi a rhoi cynnig ar rai o’r bwyd rhagorol sydd ganddynt ar gael.”
Ar ol yr holl sgwrs bwyd hwn efallai y byddwch am ddod i’r amgueddfa i flasu ‘Nef ar y Ddaear’ i chi’ch hun! Mae ar gael nawr!
Prif lun, i’r chwith: “Jim Jones (Twristiaeth Gogledd Cymru), Karen Harris (Amgueddfa Wrecsam), Dafydd Elis-Thomas AC, (Dirprwy weinidog dros ddiwylliant, chwaraeon a thwristiaeth), Paula Hanmer (Amgueddfa Wrecsam), Grant Williams ( Prif Gogydd, The West Arms).
Credyd llun: Ginger Pixie Photography
Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Amgueddfa Wrecsam