Wrth i dymor y Nadolig agosáu, rydym yn falch o roi gwybod i chi beth yw dyddiadau digwyddiadau’r Nadolig yng nghanol y dref.
Mae’r tymor yn dechrau gyda seremoni flynyddol goleuo’r goleuadau Nadolig, sy’n cael ei threfnu gan y Clwb Rotari, ynghyd â’n Tîm Digwyddiadau, dydd Iau, 14 Tachwedd. Mae’r goeden yn cyrraedd yn gynharach yn yr wythnos ac mae trefnwyr yn disgwyl y bydd mor drawiadol â choeden llynedd.
OS YDYM NI’N CAEL SETLIAD GWAEL, BYDD YN RHAID I NI YSTYRIED TORIADAU PELLACH. DWEUD EICH DWEUD…
Bydd llwyfan fawr, cerddoriaeth fyw, ffair, llawer o stondinau gyda nwyddau Nadoligaidd ac adloniant, botwm coch i oleuo’r goleuadau gwych a diweddglo ffantastig o dân gwyllt. Yr union ddigwyddiad i gael chi yn hwyliau’r ŵyl. 🙂
Ac wrth gwrs, ni fyddai’n llawer o ‘Ddolig heb y dyn ei hun – Siôn Corn!
Bydd i’w weld yn ei groto yn Tŷ Pawb dydd Sadwrn, 30 Tachwedd nes y bydd yn dechrau ei daith i bedwar ban i ddanfon anrhegion i fechgyn a merched y byd ar 24 Rhagfyr.
Bydd y groto ar agor rhwng dydd Llun a dydd Gwener 2pm – 6pm ac amseroedd agor dyddiau Sadwrn a Sul a Noswyl y Nadolig yw 11am – 4pm.
Nid oes angen archebu lle, mae tocynnau ar gael o dderbynfa Tŷ Pawb. £5 y plentyn yn unig.
Nesaf ar ein calendr Nadoligaidd yw ein Marchnadoedd Nadolig. Bydd dwy farchnad eleni- a’r ddwy wedi bod yn boblogaidd iawn yn y gorffennol gyda bron i 33,000 yn ymweld â’r Farchnad Fictoraidd a gynhelir yn Eglwys San Silyn a’r ardal gyfagos. A chafwyd dros 27,000 o ymwelwyr â’r Farchnad Nadolig ar Llwyn Isaf.
Mae’r Farchnad Fictoraidd yn cael ei chynnal ddydd Iau, 5 Rhagfyr rhwng 12 hanner dydd ac 8pm. Bydd stondinau ar safle Eglwys San Silyn a’r eglwys ei hun, Hope Street, y Stryd Fawr a Church Street.
Bydd Pentref Nadolig Llwyn Isaf yn agor ei ddrysau 10am ddydd Gwener, 13 Rhagfyr a bydd yn Wrecsam nes dydd Sul 15 Rhagfyr, Dyddiau Gwener a Sadwrn bydd y stondinau ar agor nes 8pm gydag adloniant yn y babell nes 10pm. Bydd y pentref yn cau am 4pm ddydd Sul, 15 Rhagfyr.
Bydd parcio am ddim hefyd yn rhan fwyaf o feysydd parcio’r dre yn ystod cyfnod y ‘Dolig – mae mwy o fanylion yma.
Mae’r holl ddigwyddiadau yn denu tyrfaoedd da, ac mae trefnwyd yn paratoi ar gyfer yr un fath eleni. 🙂
Os ydym ni’n cael setliad gwael, bydd yn rhaid i ni ystyried toriadau pellach. Dweud eich dweud.
DWEUD EICH DWEUD