Mae uwch gynrychiolwyr o Kronospan, Cyngor Tref y Waun, undeb Unite, Cyngor Wrecsam a Chyfoeth Naturiol Cymru – yn ogystal â’r AS lleol Simon Baynes a’r AC Ken Skates, yn parhau i gydweithio i gynyddu hyder y cyhoedd a chyfathrebu yn ymwneud â gwaith Kronospan. Fe fu’r grŵp yn cyfarfod fis Mehefin eleni ac eto ar 1 Hydref yn dilyn y cyfarfod cychwynnol a gynhaliwyd yn Ionawr 2020.
Mae’r cyfarfodydd wedi profi’n effeithiol iawn gyda’r holl bartïon yn dymuno rhoi’r diweddaraf i ddinasyddion am y cynnydd sydd wedi ei wneud hyd yma;
Mae hyn yn cynnwys:
- Gosod monitor ansawdd aer parhaol yn Y Waun gyda chanlyniadau amser real ar gael i’r cyhoedd eu gweld drwy’r wefan isod Ansawdd Aer Cymru. Mae ail fonitor ansawdd aer i’w osod erbyn diwedd mis Tachwedd i’r gogledd o dref Y Waun.
- Mae Kronospan wedi datblygu gwefan wybodaeth gyhoeddus ar gyfer y gymuned; www.chirk-kronospan.info. Yn ddiweddar fe gynhaliodd y wefan yr ymgynghoriad cyhoeddus ar gyfer datblygiad arfaethedig ar y safle ac mae Kronospan wedi ymrwymo i ddatblygu’r wefan sydd yng ngolwg y cyhoedd ymhellach.
- Mae Grŵp Cydgysylltu Kronospan newydd wedi ei ffurfio i gynnwys Kronospan, cynrychiolwyr o Gyngor Tref y Waun, Cyngor Wrecsam, Cyfoeth Naturiol Cymru a chynrychiolwyr Undeb Llafur i sicrhau a chynnal cyfathrebu a deialog rhwng yr holl bartïon yng nghymuned y Waun.
- Mae Kronospan wedi sefydlu gweithgor i adolygu rheolaethau arogl presennol ar y safle i sicrhau fod y safle yn gweithredu i’r safonau amgylcheddol uchaf posibl.
- Fe fydd gwaith plannu coed a wnaed i’r gogledd o’r safle yn cael ei adolygu gan Kronospan gydag ymarfer ymgynghori i’w gynnal gyda phreswylwyr lleol i sicrhau fod yr holl bartïon yn fodlon.
- Mae Cyfoeth Naturiol Cymru mewn ymgynghoriad gyda Chyngor Wrecsam wedi egluro’r rolau rheolaethol a’r cyfrifoldebau ar gyfer safle Kronospan, gan gynnwys y wybodaeth ddiweddaraf ar y cais presennol am drwydded amgylcheddol (Cyfoeth Naturiol Cymru / Cyfuno ac adolygu trwydded amgylcheddol ar gyfer ffatri Byrddau Gronynnau’r ‘Kronospan’ Waun (naturalresources.wales)
- Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn bwriadu cwblhau’r asesiad presennol ac adrodd eu canfyddiadau i’r grŵp erbyn dechrau mis Tachwedd. Y bwriad yw cynnal ymarfer ymgynghori cyhoeddus ym Mawrth/Ebrill 2022.
- Mae ymchwiliad Cyngor Wrecsam i’r tân ar yr iard goed bron wedi ei gwblhau ac fe gaiff ei gynnal yn unol â pholisi gorfodi’r Cyngor a gweithdrefnau cyfreithiol ac ystyriaethau perthnasol.
- Fe fydd yr AS a’r AC yn parhau i weithio yn drawsbleidiol ar y materion.
Mae’r grŵp wedi cytuno i barhau i gydweithio a pharhau i ganolbwyntio ar sicrhau fod pawb yn eglur ynglŷn â’r ffordd orau o fynd i’r afael â materion allweddol o bryder yng nghymuned Y Waun.