Fel y byddwch yn ymwybodol rydym wedi bod yn wynebu amhariadau sylweddol yn ystod y cyfnod o weithredu diwydiannol gan Unite. Yn ystod y cyfnod hwn, rydym wedi bod yn canolbwyntio’r adnoddau sydd gennym ar gael (oddeutu un rhan o dair o’n hadnoddau arferol) ar gasglu gwastraff bin du ac ailgylchu (yn cynnwys gwastraff bwyd). Nid ydym wedi bod â digon o adnoddau i allu casglu gwastraff gardd hefyd.
Rydym yn gwybod bod hyn yn achosi pryder a rhwystredigaeth i bobl sydd wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth hwn cyn, neu yn ystod, y streic. Disgwylir y bydd y streic bresennol yn para hyd at ddiwedd mis Tachwedd, ac felly rydym yn ceisio bod yn realistig ynglŷn â phryd y byddwn yn gallu ailddechrau’r gwasanaeth hwn; oherwydd mae’n debygol y bydd yn cymryd peth amser i ni allu dal i fyny gyda’r holl gasgliadau gwastraff ac ailgylchu eraill cyn diwedd 2023.
Felly, rydym wedi gwneud penderfyniad i ymestyn y cyfnod casglu bin gwyrdd hyd at ddiwedd mis Chwefror 2025. Byddwn yn ailddechrau’r casgliadau o fis Chwefror 2024 a bydd eich cyfnod tanysgrifio yn para tan fis Chwefror 2025.
Felly, os ydych eisoes wedi tanysgrifio, bydd eich tanysgrifiad yn parhau tan fis Chwefror 2025. (Ni fydd angen i chi adnewyddu ym mis Medi 2024 oherwydd bydd eich sticer yn ddilys tan fis Chwefror 2025).
Yn dibynnu ar adnoddau, mae yna siawns y byddwn yn gallu gwneud casgliad bin gwyrdd yn gynt na mis Chwefror (a fydd yn cael ei gynnwys yn eich tanysgrifiad presennol) ond gan fod adnoddau’n newid yn ddyddiol (a ninnau’n agosáu at heriau tywydd y gaeaf), ni allwn gadarnhau y bydd hyn yn digwydd. Felly byddwn yn cyfathrebu â chi yn nes at yr amser ynghylch a yw hyn yn bosibl.
Felly, os ydych eisoes wedi tanysgrifio, nid oes angen i chi wneud unrhyw beth. Os nad ydych, gallwch gofrestru er mwyn paratoi at pan fydd casgliadau’n ailddechrau. Am fwy o wybodaeth am y gwasanaeth gwastraff gardd a thanysgrifiadau casglu, ewch i www.wrecsam.gov.uk/gwastraffgardd