Ers i ni gynnwys ein blog diweddar ‘Rhybudd ynghylch twyll newydd Amazon Prime’, yn anffodus rydym wedi darganfod bod gwraig hŷn wedi dioddef twyll a throsglwyddo £10,000 i’r twyllwyr.
Roedd y dioddefwr, sydd heb gyfrif Amazon Prime, wedi cael ei harwain at gredu bod rhywun wedi clonio ei manylion banc ac wedi sefydlu cyfrif Amazon yn ei henw, ac roedd y twyllwyr wedi dweud y byddent yn ei helpu i’w ganslo.
Er mwyn ‘canslo’r cyfrif’, dywedwyd wrth y wraig ei bod angen trosglwyddo swm o £10,000 i ddechrau drwy ddiogelwch llwyr, heb ddweud wrth unrhyw un, i gyfrif banc a enwir, yr oedd y twyllwr wedi rhoi cod didoli a rhif cyfrif iddi.
Cafodd hyd yn oed ei hannog i ddweud celwydd wrth staff y banc pan (fel y disgwylir) gafodd ei herio am y swm sylweddol a dynnwyd allan. Dilynodd y cyfarwyddiadau hyn a dweud celwydd ac aeth y trosglwyddiad drwodd.
Mae Safonau Masnach Wrecsam yn dweud na ddylech byth roi gwybodaeth bersonol, fel manylion banc i alwr digroeso na thynnu arian allan os gofynnir i chi wneud hynny. Os bydd rhywun yn dweud wrthych am wneud rhywbeth anghyffredin, rhowch y gorau iddi bob tro a meddyliwch am yr hyn y gofynnir i chi ei wneud.
Gallwch helpu i amddiffyn eich hun drwy ofyn y cwestiynau hyn i’ch hun:
• “A yw’n normal pan mae rhywun yn gofyn ichi ddweud celwydd?”
• “Pam y gofynnir i mi gadw gwybodaeth oddi wrth fy nheulu?”
• “Ai twyll yw hyn?”
Ceisiwch edrych allan am gymdogion ac aelodau o’r teulu diamddiffyn. Os ydych yn dymuno rhoi gwybod am rywbeth amheus, cysylltwch â Gwasanaethau Cwsmeriaid Cyngor ar Bopeth ar 03454 040505 neu â Heddlu Gogledd Cymru ar 101.
Siaradwch gyda theulu neu ffrindiau cyn gwneud penderfyniad y gallech ei ddifaru.
Cadwch yn ddiogel rhag twyllwyr gyda’n rhybuddion!
Cofrestrwch i gael rhybuddion am sgamiau yma!