Mae nifer o bobl yn gorfwyta dros gyfnod y Nadolig, gall maint eich cyfran fod yn fwy na’r arfer ac o ganlyniad bydd yn sicr bydd ychydig o wastraff bwyd. Rydym yn gofyn i chi feddwl ddwywaith cyn lluchio’r gwastraff hwn i’r bin sbwriel arferol.
Ffordd dda o atal gwastraff bwyd yw coginio eich gweddillion… meddyliwch am risoto, cyri, cawl a lobsgóws.
Edrych am ysbrydoliaeth? Mae gan wefan Hoffi Bwyd Casau Gwastraff syniadau ryseitiau gwych!
Oeddech chi’n gwybod y gallwch roi unrhyw fwyd amrwd, bwyd wedi dyddio a bwyd wedi’i goginio yn eich cadi gwastraff bwyd? Gwnewch yn siŵr nad oes unrhyw becyn yn mynd i mewn i’r cadi oherwydd mae’n effeithio ar ansawdd y compost.
Mae’n syml!
Rhowch eich cadi allan ar ymyl palmant bob wythnos, ar yr un adeg â’r cynwysyddion ailgylchu eraill.
A’r peth gorau… mae’r holl wastraff bwyd yn newid i gompost, a ellir ei gasglu am ddim gan breswylwyr Wrecsam wrth ddefnyddio un o Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff Aelwydydd ym Mryn Lane, The Lodge neu Blas Madoc!
Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.
RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD