Daeth rheolau newydd ar gyfer busnesau sy’n masnachu gydag Ewrop i rym ar 1 Ionawr 2021.
Darganfyddwch y gwybodaeth diweddaraf am Brechlyn Coronafeirws
Os nad ydych wedi gwneud eisoes, mae’n werth edrych ar y gwiriwr Brexit ar Gov.uk i weld sut allai’r newidiadau hyn effeithio ar eich busnes.
Mae’r gwiriwr Brexit yn cynnig cwestiynau aml ddewis a fydd yn eich arwain trwy restr o gamau y gallwch eu cymryd i sicrhau fod eich busnes yn cydymffurfio â’r rheoliadau newydd.
Gall y gwiriwr Brexit gynnig canllawiau i chi os ydych chi neu’ch busnes yn:
- Teithio o fewn yr UE ar gyfer gwaith
- Cyflogi yn bresennol neu’n ystyried cyflogi gweithwyr o’r UE
- Trosglwyddo data rhwng y DU a’r UE
- Mewnforio neu Allforio nwyddau
- Darparu gwasanaethau rhwng y DU a’r UE
Mae’r safle hefyd yn cynnig cyngor i ddinasyddion yr UE sy’n edrych am waith yn y DU.
Gallwch hefyd gofrestru ar gyfer bwletinau parodrwydd busnes yma
Gallwch gael cymorth i sicrhau eich hawl i weithio a hawl i aros yn y DU
Ydych chi’n un o ddinasyddion yr UE sy’n byw yng Nghymru? Ydych chi eisiau cymorth i sicrhau eich hawl i aros yn y DU? Gallwn eich helpu chi a’ch teulu gyda cheisiadau statws preswylydd sefydlog neu statws preswylydd cyn-sefydlog EUSS. Ffoniwch wasanaeth Hawliau Dinasyddion yr UE ar 0300 3309 059 rhwng 9am a 5pm, dydd Llun i ddydd Gwener neu anfon e-bost i wgproject@eu.citizensadvice.org.uk
CANFOD Y FFEITHIAU