Un peth cadarnhaol sydd wedi dod i’r amlwg yn sgil argyfwng Covid-19 ydi’r modd y mae pobl yn cadw llygad ar eu gilydd.
Serch hynny, mae yna bobl sydd heb berthnasoedd na ffrindiau gerllaw, heb neb amlwg i ofyn a ydynt yn iawn.
Felly rydym yn gofyn i aelwydydd ar draws Wrecsam feddwl am eu cymdogion – yn enwedig yr henoed, neu’r rhai sy’n byw ar eu pen eu hunain.
Meddyliwch a ydych wedi eu gweld neu eu clywed yn ddiweddar, ac os ydych chi’n poeni, ewch i wirio a ydynt yn iawn.
Ewch i roi cnoc ar y drws, neu postiwch nodyn bach drwy’r blwch postio….ond cofiwch gadw at reolau cadw pellter cymdeithasol a chadwch o leiaf ddau fetr i ffwrdd.
Os na allwch chi gael ateb ac os fyddwch hi’n poeni’n fawr, cysylltwch â ni ar 01978 292000 / Contact-us@wrexham.gov.uk ac fe geisiwn ni gysylltu â nhw.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
Ddylai neb wynebu hyn ar eu pen eu hunain
Mewn datganiad ar y cyd, mae’r Prif Weithredwr Ian Bancroft a’r Arweinydd Mark Pritchard yn egluro pam fod hyn mor bwysig…
“Mae cadw pellter cymdeithasol yn golygu ein bod yn gweld llawer llai ar ein cymdogion.
“Ond fe all y mwyafrif ohonom gadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu yn defnyddio technoleg, neu godi llaw ar ein cymdogion ar draws y stryd.
“Serch hynny, mae yna rai pobl sydd heb unrhyw un amlwg i estyn allan atynt, ac efallai na fydd neb yn sylwi arnynt yn ein cymunedau a’n cymdogaethau.
“Os nad ydynt yn sicr o ble y gallant gael cymorth, efallai y byddant yn teimlo’n ofnus ac yn unig yn ystod y cyfnod heriol yma.
“Ddylai neb orfod teimlo fel yna, felly rydym yn gofyn i chi feddwl am eich cymdogion, ac os ydych chi’n poeni, ewch i wirio eu bod yn iawn.”
Rydym ni’n cysylltu â’n tenantiaid tai
Rydym ni hefyd yn ceisio cysylltu â’n holl denantiaid tai i wirio eu bod yn iawn.
Yn ogystal ag ysgrifennu at bawb sydd yn rhentu eiddo cyngor, rydym hefyd yn cysylltu â phobl dros y ffôn, ac rydym wedi siarad â dros 3,000 aelwyd yn barod.
Felly os ydych chi wedi derbyn llythyr gennym ni, atebwch os gwelwch yn dda…dim ond gwneud yn siŵr eich bod chi’n iawn rydym ni eisiau ei wneud.
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19