Mae’r galw am addysg Gymraeg ar gynnydd yn Wrecsam, ac felly bydd Bwrdd Gweithredol Cyngor Wrecsam yn trafod cynlluniau’r mis hwn i gynyddu nifer y lleoedd sydd ar gael.
Yn ei adroddiad dywed y Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol dros Bobl –Addysg, ei fod yn sylweddoli mai o drwch blewyn y caiff y galw presennol am leoedd dosbarth derbyn cyfrwng Cymraeg ei ateb, a rhagwelir y bydd y galw’n cynyddu ac felly mae angen i ni gynllunio ymlaen llaw nawr
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Dywedodd: ‘Mae’n bleser gen i gyflwyno’r adroddiad hwn i’r Bwrdd Gweithredol. Mae’r cyfle wedi codi i ymdrin â’r cynnydd a ddisgwylir yn y galw am leoedd cynradd cyfrwng Cymraeg gan ddefnyddio’r stoc ystâd ysgolion presennol tra’n aros am gymeradwyaeth gan Lywodraeth Cymru am ein cais ariannu sydd wedi ei gyflwyno ar gyfer Band B ysgolion yr 21ain ganrif, nad yw’n dechrau tan Ebrill 2019. Unwaith y mae wedi ei gymeradwyo, bydd yr ymgynghoriad yn mynd yn ei flaen gyda budd-ddeiliaid ac rwy’n sicr y bydd eu safbwyntiau’n ein helpu i benderfynu ar y ffordd orau ymlaen.’
Mae’r adroddiad yn amlinellu cynnig i gwblhau cyfuno ysgol Fabanod Borras a’r ysgol Iau drwy symud yr holl ddisgyblion i’r safle iau presennol. Bydd y safle babanod wedyn yn cael ei wella a’i agor fel ysgol cyfrwng Cymraeg newydd.
Tra bod y gwaith hwn yn digwydd, bydd safle dros dro ar gyfer yr ysgol yn cael ei leoli yn hen safle ysgol babanod Hafod y Wern, gyda’r niferoedd cyntaf i gael eu derbyn ym Medi 2019 ar gyfer y dosbarthiadau meithrin a derbyn yn unig.
Mae disgwyl i ymgynghoriad ar y cynlluniau hyn ddigwydd rhwng 26 Medi a 7 Tachwedd.
Bydd yr ysgol newydd yn arwain at gynnydd mewn mynediad a dewis ehangach i’r rhai sy’n dymuno addysgu eu plant drwy gyfrwng y Gymraeg.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fi Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI