Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ydych chi wedi cael eich tocyn?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Ydych chi wedi cael eich tocyn?
Pobl a lleY cyngor

Ydych chi wedi cael eich tocyn?

Diweddarwyd diwethaf: Ebrill 12, 2018 9:39 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Ydych chi wedi cael eich tocyn?
RHANNU

Mae Gŵyl Geiriau Wrecsam yn ei hôl ac mae’n fwy ac yn well nag erioed! Yn dychwelyd am y 4edd flwyddyn, bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal mewn lleoliadau ar draws Wrecsam rhwng dydd Sadwrn 21 Ebrill a dydd Sadwrn 28 Ebrill.

Mae tocynnau’n dal ar gael ond mae’n rhaid i chi frysio! Mae llefydd yn nigwyddiad Dirgelwch y Llofruddiaeth wedi mynd ond mae tocynnau ar ôl i ambell ddigwyddiad gwych arall a fydd yn cael ei gynnal yn ystod yr wythnos…

- Cofrestru -
Wrecsam2029

Yaseem Khan

Dydd Mawrth 24 Ebrill, 6.30pm

Llyfrgell Wrecsam

Yaseem Khan yw awdur y gyfres drosedd a gwerthwr gorau’r Times, Baby Ganesh Agency, gyda’r ditectif Indiaidd Ashwin Chopra a’r eliffant bach yn bartner iddo. Yn y sesiwn hon, bydd Vaseem yn mynd â’r gynulleidfa ar daith i India, o ddyddiau’r Raj i ganol dinas fodern Mumbai – amgylchedd lliwgar o newid deinamig, cyfoeth newydd anhygoel a phroblemau hanesyddol o anghydraddoldeb. Yn y broses, bydd yn rhannu ambell gyfrinach gyda ni am ysgrifennu ffuglen drosedd lwyddiannus yn y diwydiant cyhoeddi anwadal sydd ohoni, gan gynnwys ateb y cwestiwn allweddol; sut mae rhywun yn cynnwys eliffant mewn stori drosedd?

PEIDIWCH BYTH   METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM WYTHNOSOL RŴAN.

Emma Carroll

Dydd Iau 26 Ebrill, 1pm

Llyfrgell Wrecsam

Mae Emma Carroll, yr awdur i bobl ifanc, yn eich ’sgubo’n ôl mewn amser gyda’i nofel atgofus am yr Ail Ryfel Byd, Letters from the Lighthouse.

Bydd Emma yn dweud wrth y gynulleidfa am yr ymchwil a’i helpodd i ysgrifennu ei stori afaelgar i bobl ifanc am faciwîs, ffoaduriaid plant a brechdanau pannas, ac mae’n rhoi cyfle i chi weld ambell eitem od o’r gorffennol.

Yn yr Ardd a Llyfrau Da

Dydd Llun 23 Ebrill, 4.30pm

Bwyty Bellis Brothers, Holt

Bydd panel o arddwyr lleol nodedig yn trafod eu hoff lyfrau sy’n ymwneud â garddio, ac am dreftadaeth a phrosiectau garddio gwych Wrecsam, yn ogystal ag ateb rhai o’ch cwestiynau chi am arddio – a bydd fforchiad o farddoniaeth gain gan y cadeirydd Peter Read hefyd!

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Mae hon yn gyfres arbennig o ddigwyddiadau, a thocynnau rhai o’r rheini wedi mynd yn barod. Mae’r ŵyl hefyd yn tynnu sylw at rai o’r lleoliadau gwych sydd gennym ni yn Wrecsam, gyda digwyddiadau yn Nhŷ Pawb, Prifysgol Glyndŵr, Saith Seren, Eglwys San Silyn a Llyfrgell Wrecsam. Hoffwn annog unrhyw un sydd wrth eu bodd â llyfrau ac ysgrifennu i ymuno â ni yn ystod yr wythnos.”

Mae Gŵyl Geiriau Wrecsam wedi bod yn llwyddiant ysgubol ers ei chynnal am y tro cyntaf yn 2015, gydag mwy a mwy o ddigwyddiadau sydd wedi bod yn boblogaidd gyda phobl leol.

Mae prisiau tocynnau’n amrywio ond mae llawer o ddigwyddiadau am ddim. Gallwch eu prynu o Lyfrgell Wrecsam neu ar-lein drwy wefan Cyngor Wrecsam. Mae mwy o fanylion a’r rhaglen lawn ar gael ar www.carnivalofwords.com neu dilynwch yr ŵyl ar Facebook a Twitter, #GwylGeiriauWrecsam.

Peidiwch byth â  methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/welsh/env_services/recycling_waste_w/calendar.htm “] COFIWCH EICH BINIAU[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Noson y Merched yn Dychwelyd Noson y Merched yn Dychwelyd
Erthygl nesaf Gwaith beirniadu i sêr chwaraeon Wrecsam yng Ngemau'r Gymanwlad Gwaith beirniadu i sêr chwaraeon Wrecsam yng Ngemau’r Gymanwlad

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026
Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor
Awst 12, 2026
Britain in Bloom Wrecsam 2026
Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni
Pobl a lle
Awst 11, 2026
Water
Arhoswch yn ddiogel o amgylch y dŵr
Arall Fideo
Awst 11, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Uwchraddio’r rheilffyrdd ar gyfer Gogledd Cymru ac ardal y ffin

Awst 10, 2026
Family Zone at the Wellbeing Hub
DigwyddiadauPobl a lle

Cofiwch – mae’r Parth Teulu yn cynnal sesiynau chwarae wythnosol am ddim drwy gydol gwyliau’r ysgol

Awst 10, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English