Mae e-bost twyll yn mynd o amgylch ar hyn o bryd ac mae ein Swyddogion Safonau Masnach yn gofyn i chi fod yn wyliadwrus oherwydd gallai olygu eich bod yn colli llawer iawn o arian.
Mae’r e-bost yn ymddangos fel petai wedi cael ei anfon gan awdurdodau trwyddedu teledu ac yn defnyddio penawdau megis “correct your licensing information” neu “your TV License expires today”
Gall ofyn i chi wirio eich manylion talu, yn cynnwys manylion banc a gofyn hefyd am bethau fel cyfenw eich mam cyn priodi a’ch dyddiad geni.
Mae’r Awdurdod Trwyddedu Teledu wedi cyhoeddi’r cyngor canlynol ar sut i ddweud os yw’r e-bost yr ydych wedi ei dderbyn yn ddilys neu’n dwyll.
Ni fyddent yn:
Anfon e-bost atoch i ddweud bod gennych hawl am ad-daliad.
Gofyn i chi dalu mwy am ein gwasanaethau, e.e. wrth brynu trwydded neu newid eich manylion.
Gwiriwch y cyfeiriad e-bost
- Byddent bron bob amser yn defnyddio un o’r cyfeiriadau e-bost canlynol:
donotreply@tvlicensing.co.uk
no-reply@tvlreminders.co.uk
- Ar adegau, byddent yn cydweithio â chwmnïau eraill i anfon negeseuon e-bost. Mae’r cwmnïau hyn yn cynnwys InfoBase-X ac Acxiom Limited, a allai anfon e-bost i chi – ar ran Trwyddedu Teledu – o Infobase-XConsumer@dm-uk1.com.
Gwirio llinell testun yr e-bost
Dylai unrhyw beth sy’n dweud “Action required”, “Security Alert”, “System Upgrade”, “There is a secure message Waiting for you”, ac ati, gael eu trin fel rhai amheus.
Gwiriwch fod y dolenni yn mynd i’r wefan Trwyddedu Teledu
Os ydych ar gyfrifiadur, rhowch y llygoden dros y dolenni yn yr e-bost (ond peidiwch â chlicio arnynt) i weld eu cyrchfan a gwirio’r cyfeiriad gwe yn ofalus. Os nad allwch roi llygoden dros y dolenni (e.e. os ydych chi’n defnyddio eich ffôn neu dabled) neu os nad ydych yn sicr beth i’w wneud, ewch yn syth i wefan Trwyddedu Teledu.
Gwiriwch am newid mewn arddull a chamgymeriadau sillafu neu ramadeg
Yn aml, mae twyllwyr yn cymryd negeseuon e-bost go iawn a’u haddasu. Edrychwch am newidiadau yn yr eirfa a ddefnyddir, yn arbennig os yw’n ymddangos yn rhy anffurfiol neu gyfarwydd.
A oes unrhyw gamgymeriadau sillafu, atalnodau llawn coll neu gamgymeriadau gramadeg eraill?
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ysgol meithrin yn 2019 yw Chwefror 22
YMGEISIWCH NAWR