Os ydych chi’n landlord neu’n asiant rheoli yn ardal Wrecsam, gallwch ddal i fyny gydag unrhyw newidiadau neu ddiweddariadau a allai effeithio arnoch chi neu eich tenantiaid trwy fynychu cyfarfod nesaf y Fforwm Landlordiaid a fydd yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Catrin Finch, Prifysgol Glyndŵr am 5.30 ddydd Mawrth Chwefror 5.
Mae hwn yn gyfarfod hynod bwysig gan y bydd diweddariadau ar y nifer o newidiadau sydd eisoes wedi digwydd a’r rheiny sydd i ddod yn y 12 mis nesaf, a bydd y rhain yn cynnwys:
Rheoliadau’r Diwydiant Dŵr (Ymgymerwyr yn Gyfan Gwbl neu’n Bennaf yng Nghymru) (Gwybodaeth am Feddianwyr nad ydynt yn Berchnogion) 2014
Cyflenwyr Dŵr Preifat
Ymgyrch Asesu Risg Tân
Diweddariad ar Berfformiad Ynni a Chymorth Grant
Cyngor Wrecsam – Strategaeth Atal Digartrefedd
Bydd asiantaethau perthnasol eraill yn bresennol yn ystod y digwyddiad ac yn darparu gwybodaeth ac yn ateb unrhyw atebion
Rydym yn gofyn i unrhyw un sy’n dymuno bod yn bresennol i anfon e-bost at healthandhousing@wrexham.gov.uk gyda’r Pwnc: Cais am Wahoddiad i Fforwm Landlordiaid 19 Chwefror a darparu eich enw.
Bydd bwffe ar gael tua 6.45pm.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ysgol meithrin yn 2019 yw Chwefror 22
YMGEISIWCH NAWR