Mae Tŷ Pawb yn gwahodd cyn staff o Ffatri British Celanese/Courthauld i ddigwyddiad aduniad ym mis Ebrill!
Cynhelir yr aduniad ddydd Iau 18 Ebrill am 2.15pm, gyda the, coffi a chacennau Cymraeg yn cael eu darparu.
Bydd hwn yn gyfle i gysylltu â chyn-gydweithwyr, a chyfle olaf i gyfrannu ffotograffau neu wrthrychau (gweler yr enghreifftiau isod) at gasgliad ac archif Amgueddfa Wrecsam, mewn perthynas â’r ffatri.
CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB .
Cyfle i ddweud ‘diolch’
Mae’r digwyddiad hwn yn nodi wythnos olaf yr arddangosfa ‘Twist i Fyny Twist i Lawr’, sy’n cael ei ysbrydoli gan y ffatri a chyn-staff.
Mae’r aduniad yn digwydd yn syth ar ôl ein cyngerdd amser cinio am ddim am 1pm, gyda cherddoriaeth fyw gan Elias Ackerley (Piano) a Jullianna Antczak (soddgrwth). Mae croeso i bawb fynychu’r cyngerdd hefyd.
Dywedodd Cyfarwyddwr Creadigol Tŷ Pawb, Jo Marsh: “Rydym mor ddiolchgar i gyn staff Celanese sydd eisoes wedi cymryd rhan yn y prosiect hwn. Mae’r aduniad yn gyfle i ni ddweud diolch, ac i groesawu unrhyw un arall a hoffai ailgysylltu dros atgofion a straeon o’r ffatri ”.
DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB