Yng Nghyngor Wrecsam, rydym yn chwilio am yr unigolyn iawn i arwain ein tîm o Gynllunwyr Polisi…rhywun a fydd yn gosod y safon, ond hefyd yn meithrin a datblygu ein staff i gyrraedd eu potensial.
Oes gennych chi ddiddordeb? Darllenwch ymlaen…
Rydym angen arbenigwr gyda digon o brofiad i fod ar reng flaen ein gwasanaeth…rhywun a fydd yn sicrhau bod blaenoriaethau allweddol a gweledigaeth y cyngor yn disgleirio drwy’r adran. Y cyswllt hanfodol yn y broses hon, fel petai.
Ydy hyn yn swnio fel rhywbeth y gallech chi ei wneud? Dyma fwy o wybodaeth…
Ynglŷn â’r swydd
Fel Pennaeth ein Gwasanaeth Cynllunio Polisi, byddwch yn gyfrifol am gynhyrchu’r Cynllun Datblygu Lleol, yn ogystal â nifer o bolisïau cynllunio eraill.
Byddwch angen cydweithio gydag uwch reolwyr eraill ar draws y cyngor, yn ogystal â sefydliadau partner er mwyn darparu gwasanaethau effeithiol ac effeithlon.
Allwch chi gynllunio, datblygu ac adeiladu ystod o swyddogaethau gwasanaeth cydlynol, effeithlon a chadarn ar draws yr adran?
Dim ond rhywun sydd â sgiliau arweinyddiaeth ardderchog, gweledigaeth glir a digon o gymhelliant all wneud y swydd hon yn effeithiol, ond mae digon o resymau pam mai dyma’r lleoliad iawn i’r unigolyn hwnnw arddangos eu dawn.
Y gwobrwyon
Gall weithio yn y sector cyhoeddus roi llawer o foddhad.
I ddechrau, nid yw’n swydd ddiflas.
Mae cynghorau bob amser yn datblygu ffyrdd mwy doeth ac arloesol i ddarparu gwasanaethau, felly cewch gyfle i fod yn greadigol a rhannu syniadau newydd.
Cewch ddigon o foddhad yn y swydd yma wrth i chi gynorthwyo pobl yn eich tîm i ddatblygu a chyrraedd eu llawn botensial.
Hefyd cewch fynediad at gynllun pensiwn da, lwfans gwyliau hael, gweithio’n hyblyg (gwych ar gyfer cydbwyso bywyd gwaith ac yn y cartref) a buddiannau eraill i weithwyr.
Felly, ydych chi’n barod i ymuno â ni?
I weld y swydd-ddisgrifiad yn llawn ac i ymgeisio, ewch i’n gwefan.
Y dyddiad cau yw dydd Sul, 12 Ebrill.
GWNEWCH GAIS RŴAN