Yng Nghyngor Wrecsam, rydym yn chwilio am rywun i fod yn bennaeth i’n hadrannau TGCh.
Rhywun gyda sgiliau da, profiad helaeth a’r gallu i wneud pethau da gyda thechnoleg.
Oes gennych chi ddiddordeb? Darllenwch ymlaen…
Y swydd…
Fel Pennaeth Gwasanaeth TGCh byddwch yn arwain amryw o gymwysiadau a phrosiectau seilwaith.
Byddwch yn rheoli oddeutu 30 o weithwyr sy’n gweithio ar draws ystod o fusnesau, swyddogaethau diogelwch, technegol a datblygiadau – llawer ohonynt yn hanfodol i redeg y cyngor.
Ac mae’n rhaid dweud…mae pobl TG yn arwron. Maent yn helpu i gadw sefydliadau a chwsmeriaid yn ddiogel. Hebddynt, ni fydden ni yn gallu darparu gwasanaethau y mae pobl eu hangen.
Felly mae hon yn swydd bwysig iawn.
Y gwobrwyon
Gall weithio yn y sector cyhoeddus roi llawer o foddhad.
I ddechrau, nid yw’n swydd ddiflas.
Mae cynghorau yn gorfod bod yn fwy arloesol yn y ffordd y maent yn darparu gwasanaethau… ac mae gan dechnoleg rhan fawr i chwarae yn hyn.
Felly mae digon o foddhad swydd i’w gael yn y swydd hon … digon o gwmpas i fod yn greadigol, yn dechnegol a strategol.
Hefyd cewch fynediad at gynllun pensiwn da, lwfans gwyliau hael, gweithio’n hyblyg (gwych ar gyfer cydbwyso bywyd gwaith ac yn y cartref) a buddiannau eraill i weithwyr.
Sut i Ymgeisio
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 14 Mehefin 2019 felly os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â ‘Thîm Wrecsam’, ewch amdani.
Am fwy o wybodaeth, gan gynnwys manylion cyswllt ar gyfer sgwrs anffurfiol am y swydd ewch i’n gwefan.
IE…DWI EISIAU GWELD Y SWYDD!