Mae ‘Digidol’ yn air sydd wedi ei ddefnyddio’n aml yn y blynyddoedd diwethaf. Bu llawer o sôn…. a rhywfaint o weithredu.
Ond fel y rhan fwyaf o gynghorau, mae tipyn o ffordd i fynd cyn y gallwn ni wir alw ein hunain yn ‘sefydliad digidol.’
Ac efallai mai dyna pryd allech chi gamu i mewn?
Rydym yn chwilio am arweinydd digidol…
Rydym yn chwilio am rywun i arwain ein hagenda digidol.
Rhywun sy’n deall i ba gyfeiriad mae technoleg, ymddygiad cwsmeriaid ac arferion busnes yn mynd… a rhywun a allai ein helpu i ddwyn pwysau am y pethau hyn er budd cwsmeriaid a gweithwyr.
Oes gennych chi ddiddordeb? Efallai y dylech chi ymgeisio.
DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.
Os ymunwch chi â ni yn y swydd hon, byddwch yn cynnig cyngor arbenigol ar wasanaethau digidol, datblygu strategaethau a pholisïau ar gyfer trawsnewid digidol, a chymell darpariaeth prosiectau digidol ar draws y cyngor.
Chi fydd yn sbarduno arloesi, herio dulliau o weithio nad ydynt yn ddigidol, a chwilio am gyfleoedd i weithio gyda sefydliadau eraill.
Wrth gwrs… mae angen rhywun gyda sgiliau gwych a’r profiad cywir arnom ni. Ond yn fwy na dim, mae angen rhywun â ‘gweledigaeth’ arnom ni.
Y gwobrwyon
Peidiwch â chredu’r hyn rydych yn ei ddarllen. Gall gweithio yn y sector cyhoeddus roi llawer o foddhad… ac yn sicr nid yw’n ddiflas.
Mae llai o arian yn golygu fod rhaid i gynghorau fod yn fwy doeth ac arloesol yn y ffordd y maent yn darparu gwasanaethau… ac mae gan drawsnewid digidol ran fawr i’w chwarae yn hyn.
Felly mae digon o foddhad swydd i’w gael yn y swydd hon … digon o gwmpas i fod yn greadigol, yn dechnolegol a strategol.
Hefyd cewch fynediad at gynllun pensiwn da, lwfans gwyliau hael, gweithio’n hyblyg (gwych ar gyfer cydbwyso bywyd gwaith ac yn y cartref) a buddiannau eraill i weithwyr.
Sut i Ymgeisio
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner nos, dydd Gwener, 13 Rhagfyr, felly os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â ‘Thîm Wrecsam’, ewch amdani.
Am fwy o wybodaeth, gan gynnwys manylion cyswllt ar gyfer sgwrs anffurfiol am y swydd ewch i’n gwefan.
DWI EISIAU GWELD Y SWYDD!