Oes gennych chi’r ymrwymiad a’r profiad i gyflawni’r swyddi gwerthfawr hyn? Darllenwch ymlaen…
Mae gennym nifer o gyfleoedd gwych i weithio yn ein hadran Gofal Cymdeithasol Plant.
Ar hyn o bryd rydym yn hysbysebu am Swyddogion Diogelu ac Adolygu Annibynnol ac hefyd yn chwilio am Weithwyr Cymdeithasol dawnus i ymuno â’r tîm.
Maent yn swyddi cyffrous gyda chyfleoedd arbennig i’r unigolion iawn. Ac os yw hyn yn apelio atoch chi, hoffwn glywed gennych!
Mwy o wybodaeth am y rolau…
Fel Swyddog Diogelu ac Adolygu Annibynnol, byddwch yn ein helpu i ddiogelu plant drwy ymateb yn sydyn i’w hanghenion. Mae’n swydd bwysig a byddwch yn ein helpu i gadw pobl ifanc yn ddiogel a chael deilliannau gwell yn y dyfodol.
Mae ein Gweithwyr Cymdeithasol yn helpu teuluoedd drwy’r amseroedd caletaf a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl. Gall hyn fod yn heriol, ond mae’n rhoi boddhad mawr, a chewch gefnogaeth bob cam o’r ffordd.
Ar gyfer y ddwy swydd byddwch angen sgiliau cyfathrebu ardderchog, profiad o weithio mewn tîm a phrofiad o weithio gyda phlant.
Byddwch hefyd yn deall ac yn gweithio o fewn ein polisïau a’n canllawiau. Gallwch ddarganfod mwy yn y disgrifiadau swydd llawn.
Datblygwch eich gyrfa!
Mae cyfle i ddatblygu eich gyrfa ymhellach hefyd! Cewch yr holl gefnogaeth yr ydych ei angen i gyrraedd y lefel nesaf – p’un ai gynyddu i Lefel 4, rôl rheoli, neu arbenigo fel gweithiwr cymdeithasol ymgynghorol.
I weld y disgrifiadau swydd yn llawn ac i wneud cais, cliciwch ar y ddolen isod os gwelwch yn dda.
I gael sgwrs anffurfiol, ffoniwch 01978 295420 neu 01978 295409.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 2 Tachwedd.
Gwych … Ddangoswch y SWYDD Na… Dw i’n iawn ddiolch